Dwi'n gwas bach ffyddlon i'm ffrindiau a fy nheulu
Rhoi pawb a phopeth o flaen fi fy hun
Ac wedyn mae'r teimladau o ddicter yn dechrau
Dwi'n siŵr fod bobol yn dewis anghofio fy mod yn ddioddef o anhwylder dau begwn.
Iawn i chi tretio fi yn 'normal' i raddau ond mae'n rhaid i chwi cofio pam es i'n sâl yn y lle gyntaf
Oherwydd mi wnes i gyfaddawdu i fod yn aelod o'r gymdeithas yma.
Mae rhaid cystadlu ond rwyf yn gwrthod.
Peidiwch plîs disgwyl i mi gwneud yr un peth a phobol eraill oherwydd dwi ddim fel pobol eraill.
Dwi'n tristau i fer fy esgyrn.
Cilio rhag y byd ar fetws fydd y dyfodol i mi.
Dwi ddim eisiau fod fel pawb arall oherwydd dych chi ddim y fersiwn gorau a gwreiddiol ohonoch chi’ch hun.
Rydych wedi gwerthu allan i lwyddo.
No comments:
Post a Comment