Digon o Ddyn
Dych chi ddim yn ddigon o ddyn i gyfadde’ eich bod yn gaeth i gystadlu?
Yn ddigon o ddyn i fynd i ryfel dros y Gymraeg ar drydar?
Ydach chi yn ddigon o ddyn i gyfaddef eich bod yn 'bore'?
ar unig beth i chi yn mwynhau di 'Final Score'.
Ydach chi'n ddigon o ddyn i ddeud fod cael cachiad yn well na chael rhyw?
Ydach chi'n ddigon o ddyn i sylwi fod pob brawddeg yn spew?
Dwi ddim yn ddigon o ddyn i alw fy hun yn ddyn oherwydd dwi di wneud gormod o bosau yn deud fy mod gen i ymennydd menywaidd
Dwi'n ddigon o ddyn i guddio tu ôl i Weplyfr ac i ddweud y pethau maent yn disgwyl i mi ddeud.
Ond bywyd afiach ydy un o gymhariaeth.
Dych chi'n ddigon o ddyn i brynu siocled a siampen
i wrando yn astud yn lle cynnig ateb
i sylweddoli dy fod ti yn perthyn i dy wraig a dy blentyn
Ti'n ddigon o ddyn i sylweddoli na fod yn ti dy hun yn hunanol?
a chydymffurfio ydy'r unig ffordd i fihafio.
Dwi'n gwybod dy fod ti ddim yn ddigon o ddyn a dyna pam dwi'n gofyn
i weindio di fyny am fy mhleser.
Paid â becso (Sowth) hogyn (North) does 'na ddim dyn ar y ddaear yn barod i gyfadde
fod o ddim yn ddigon o ddyn.
No comments:
Post a Comment