"Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo" ddwedodd Saunders yn ei ddarlith 'Tynged yr Iaith' yn 1962 ond beth yn union ydy dulliau chwyldro yn 2022?
Beth fasa wedi digwydd ar Bont Trefechan tasa’r rheolau mewn grym yn Ionawr 1963 tybed?
Ydy chwyldro yn golygu protestio yn yr hen ddulliau neu os rhaid ail ddiffinio chwyldro yn nhermau sut mae pobol yn meddwl?
Yn Saesneg diffiniad 'Revolution' ydy: A forcible overthrow of a government or social order, in favour of a new system.
Beth fasa ddiffiniad Chwyldro yn nhermau Cymru a'r Gymraeg yn 2022?
Bod pawb yn siarad Cymraeg. Bob gwan jac o'r 3.19 miliwn ohonom ni?
Mae'r Llywodraeth Llafur yn y Senedd yng Nghaerdydd am i gael 1 miliwn ohonom ni yn siarad Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Nod gafodd ei ddyfeisio gan ymgyrchwyr iaith ac wedyn rhoi gerbron y llywodraeth Gymraeg.
Tasa dysgu iaith mor hawdd a dreifio trwodd McDonalds ag archebu ein Burger, Fries a Coke mi fasa pawb yn ei siarad hi ond dydy hi ddim yn hawdd. Y peth arswydus i garwyr yr iaith Gymraeg ydy'r ffaith dydy o ddim yn angenrheidiol i siarad o i fyw a bod yng Nghymru.
Elfennau economaidd sydd wedi bod yn gwasgu ar yr iaith Gymraeg ers dros ddwy ganrif bellach. Yn y trefi megis Caerfyrddin a Rhuthun, Saesneg fuodd iaith 'masnach' erioed neu fasnach y banciau. Y ffermwyr a'r gwerinwyr yn defnyddio'r Gymraeg i brynu a gwerthu ei stoc yn y mart anifeiliaid.
Oes bosib creu ewyllys da tuag at yr iaith? Mae elfennau gorfodaeth ac "mae rhaid gwneud hyn" ac "mae rhaid gwneud y llall" yn aml yn gweithio i wrthwyneb y nod.
No comments:
Post a Comment