Ges di dy gyfle, yn do?
Ges di filoedd ohonynt yn do? Yn do?
Does dim pwynt alaru, rhy hwyr i garu.
Caeau Ceredigion yn llawn Cymry wedi dod i gystadlu
Beirniaid, Ysgolheigion, Derwyddon bob un ohonynt gyda'i 'mobile phone'
Mae rhai yn rhy eiddgar i brofi ei fod nhw 'Yma o Hyd'
Ella fuasent yn well off yn cymryd bach o 'speed'
Unwaith y flwyddyn mae Hwntw a Gog yn gallu rhannu'r un bog
Culni a chasineb yn perthyn i ni, fel pawb arall "Sbïwch dyna honna honna a hwn a hwn"
Carafanau mewn cwr o gaeau
"Os welaf di Dwynwen, cofia deud Hi"
Mae bod yn aelod o leiafrif sy'n ceisio fod yn fwyafrif yn hollol draining.
Ceisio penderfynu os am wthio fy agendor lawr corn gwddw neu roi gorau i'r 'mansplaining'
Siŵr fod 'na rhwyg yn y 'psyche' erbyn hyn
Fydd na chyfle i fynd i'r Eisteddfod ar fy meic?
Neu Cars only fydd o?
Cors Caron yn debycach i Dover
Beth sydd yn cael fi mwy na dim byd,
ydy'r ffaith fod yr Eisteddfod ddim yn cydnabod fod 'na fath beth ag 'unemployed'.
Allwn ni fod allan o waith oherwydd iechyd meddwl ond dych chi am inni dalu dwbl? trebl?
"Allwch chi wirfoddoli?" waeddoch chi
"Dwi ddim yn siŵr os ydy o werth trafferthu cyw"
Mi fydd na goron a chadair ag enillwyr di ri’ ond "cymryd rhan di'r peth pwysicach" meddwch chi.
No comments:
Post a Comment