Roedd Ynys Môn yn fy atgoffa o Iwerddon, Llydaw a Chernyw
Y tirlun, y tir ar dai
Doeddwn ni ddim bod yna, y bobol fodern
nid Rhufeiniaid, nid y Gymru na'r Saeson
Gwlad y Derwyddon oedd hyn dal
Ymwthwyr da ni
Y môr a mynydd Cybi a llwythi o lwyn onnen
Does bosib taw Gorsedd y Beirdd oedd hwnna?
Mae'r golau a'r gorwel yn chwarae triciau ar gefn y llygaid.
Hiraeth am ein cartref ysbrydol tybed?
Dydy concrit nag niwclear ddim yn cydweddu a natur
Y funud dych chi'n croesi'r bont chi'n ymwybodol eich bod ar dir
gwahanol.
No comments:
Post a Comment