Mae 'na rywbeth i ddweud dros farwolaeth
Y ras wedi ei rhedeg
Ydy e yn deg i strugglo mlaen?
Gorwedd yn y fynwent does dim dod yn nol.
Y tywyllwch wedi cae o'n gwmpas neu'r goleuni ym mhobman?
Does neb wedi dod 'nôl i ddweud wrthon ni sut le sydd yna yn y fan?
Ond beth tasa rhai yn ei'n blith yn ddi wybod i ni, yn dawel ei
ysbryd oherwydd maent yn gwybod taw marwolaeth di nyth.
Mae'n bwysig peidio ei ofni oherwydd digwydd fe wnaeth e ta waeth.
Fydd rhai yn mynd cyn ac ar ôl ni, dos ots yn y pen draw pryd na lle.
Mi dyle fe helpu ni canolbwyntio i anelu am y Copa syth bin.
Ond druan mae'r hen natur ddynol yn anaml cweit mor chwim.
Mae oedi a thin droi yn ail natur
'Whillibowan' fel gem yn y ffair.
O am gyfnod o weithgarwch,
o weld yn glir ac o roi y mae'n i'r wal.
Yn y cyfnodau rheina rhwng y gwynt ar glaw,
dyna'r amser i ni beidio ofni
Mi ddaeth y perlau yn rhydd rhag y baw.
No comments:
Post a Comment