Methiant Cydwybodol
Dydy dyn cant oed ddim yn haeddi y fath driniaeth
ond mi es i amdano fo gyda fy nhafod, fel bwa saith.
Blynyddoedd o flinder mae'n rhaid,
ond mae'n hawdd cyfiawnhau unrhyw beth mewn naid.
Dydy Taid ddim yn deilwng o'r ffasiwn iaith
sydd yn dod allan o geg ei fab di waith.
'Methiant Cydwybodol' fues i erioed
'aflwyddiannus anhysbys'
a dyma fy ngwobr, 'gofal oes'
dros un a fuodd yn weithiwr bara fel toes
Carchar ydy gofalu, peidiwch wrando ar y rhai
sydd yn deud fod o'n fraint, mae o yn haint.
Arberth di popeth mae'n debyg
ond uffern di ofal cefn gwledig
'Social Services' yn cynnig dod mas i lenwi rhyw 'tick box'
i weld beth allent wneud.
Dim Diolch
Cyn lleied, rhy hwyr.
Siom a chywilydd dwi'n teimlo,
siawns, mae'n well na wylo
No comments:
Post a Comment