Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Thursday 4 July 2019

Annibyniaeth trwy Ysbrydiaeth



Fydd rhai pobol wedi peidio darllen ar ôl y gair ysbrydiaeth ond fyddant wedi cael ei chynhyrfu gan y gair Annibyniaeth. Ar hyn o bryd yng Nghymru rydym yn gweld cynnydd yn y meddylfryd 'Annibyniaeth i Gymru'. Raliau a mudiadau ym mhob man ond dydi’r mudiadau a phleidiau yma ddim yn rhannu'r un wleidyddiaeth. Maent yn rhannu'r un nod, sef Annibyniaeth i Gymru o fewn y Deyrnas Unedig ond sut mae cyrraedd y nod yna ydy'r cwestiwn. Mwy o raliau ag mwy o areithiau? Efallai. Mae o yn ffasiynol i fod o blaid annibyniaeth ag mi rydych yn beryg i gael cael eich galw yng ngamwn os ydych yn erbyn, neu yn Brit Nat. Mae'r rheina ar y dde o sbectrwm gwleidyddol wedi cael ei alw yn Ffasgwyr ag yn Natsïaid gan y 'Totalitarian Left' a dwi ddim yn meddwl fod hwn yn helpu neb ond mi wnaeth llewpard ddim newid ei sbotiau. Mi fydd wastad giang yn galw enwau ar y garfan arall ond rydym mewn cyfnod cythryblis iawn yn wleidyddol ar draws y byd. Yn bersonol dwi ddim yn meddwl bydd y nod o gyrraedd annibyniaeth i Gymru o fewn y deyrnas unedig yn digwydd yn y ffordd draddodiadol. Mi fydd rhaid i ni gyd ollwng teilyngdod i ein gwleidyddiaeth benodol sef Phoblyddiaeth, Sosialaeth, Rhyddfrydiaeth a phopeth yn y canol. Yr unig ddyn i guro'r Ymerodraeth Brydeinig oedd Mahatma Ghandi. Os am Annibyniaeth i Gymru o fewn y Deyrnas Unedig mi fydd rhaid efelychu'r dewin yma ym mhob ffordd. Gwisgo yn yr un ffordd, tyfu bwyd ein hunan a cherdded i bob man. Does dim pwynt i gael Bws i Gaernarfon, mae hwnna yn rhedeg ar olew o'r ddaear. Y peth gorau i wneud ydy cerdded o Gaernarfon i'r man nesaf fydd Rali AUOB. Pwy a ŵyr efallai fydd miloedd yn cerdded o Gaernarfon i Gaerdydd rhyw ddiwrnod i ail etifeddu ei gwlad. Yn debyg i Mohandas Mahatma Ghandi ar orymdaith halen. Efallai erbyn hyn mae rhai o fy narllenwyr ffyddlon yn chwerthin llond ei bol. Mae'r dyn yma ddim hanner call! Well mae hwnna yn ffaith. Dwi wedi sgrifennu digon am hwnna yn y gorffennol ond os ydym ni yn wir feddwl ein bod yn mynd i gael ein ddi-coloneiddio yn defnyddio'r un ffordd o fyw ar coloneiddwyr rydym yn mynd i gael 'rude awakening'. Dwi'n siŵr mae 'na Heddlu Cudd a rhyw adran yn MI5 wrthi ar hyn o bryd yn ceisio gweithio allan sut i ddenu rhai o bennau poeth y mudiad i droseddu ac i roi enw drwg i'r achos. Mi fydd rhaid bod yn ofalus ond yn y cyfamser daliwch chi ati i ddosbarthu taflenni.  


Darllen Pellach


No comments:

Post a Comment

Fruity old fruit bats

  Hello my fruity old fruit bats! That is a term of endearment by the way. I thought I would treat you to a piece of prose rather than the b...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman