Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Sunday 14 October 2018

The North South Divide anaye






Mi rydym yn bobol blwyfol. Y filltir scwar a'r papur bro ac rydym yn brwydro dan y chwedl ei fod yn beth da ond peth os ydyw yn beth drwg? Beth os ydy o yn cadw ni ti ôl i furiau caeedig. Efallai beth wnaeth Edward I gan adeiladu'r Cestyll crand yma i gyd oedd creu muriau mawr yn ein meddylfryd hefyd. Mi rydym yn bobol amddiffynnol iawn. Does dim ond rhaid edrych ar drydar ar ol i ryw gôc oen deud rhywbeth mor ddadleuol ag bod Port Talbot yn drewi pan rydych yn dreifio trwyddo fo. Mae'r trydar Gymraeg drosto fo fel fwltur ar gorff ac yn bigiad bob darn o groen oddi ffwrdd. Mae 'na ryw ofn mawr yn perthyn i ni fel pobol ag efallai'r ofn mwyaf dydyn ddim yn son amdano ydy'r ffin feddal yma rhwng y De a'r Gogledd. Mi roedd o yn broblem yn Lloegr ers llawer dydd ond ers dyfodiad yr HS2 mae'r metropolitan elite yn gallu teithio o Lundain i Brum i Lerpwl a Newcastle mewn chwinciad ond dim ffasiwn beth i ni'r Cymry. Mae y metropolitan elite ein Prifddinas yn dibynnu ar Arriva Trains Wales neu o heddiw ymlaen Keolis Violets neu rywbeth tebyg. Ydy o wedi croesi eich meddwl efallai ta strategaeth gan overlords Alun Cairns oedd Arriva Trains Wales i gadw ni yn ein milltir scwar. Faint ohonom ni yn Aberystwyth sydd wedi cael y dewis o Rail Replacement Service oherwydd bod cainc fach neu ddeilen wedi cwympo ar y cledrau ag i ble mae'r llinell yn mynd? I'r Amwythig. Lle hyfryd hanesyddol ond Lloegr ydyw! Os am fynd lawr i nerve centre y Western Powerhouse mae rhaid newid trêns a dal y Manceinion i Milford Haven. The mind boggles anaye! Faint o Mancs fasa eisiau teithio i Aberdaugleddau beth bynnag? Beth di'r peth gorau i ddod allan o Gymru? Yr M4. All roads lead to England bois bach. Mae'r A470 yn mynd o Ogledd Cymru i'r De ond waeth i chi beidio galw hwnna yn ffordd. Y tro diwethaf wnes i geisio mynd arno fo mi ges i fy goddiweddid gan Gerallt Cymro. Mae infrastructure trafnidiaeth Cymru yn chwerthinllyd ac dyna pam ydym ni ddim yn wlad annibynnol. Oherwydd rydym wedi cael ein rhannu gan ffyrdd ag rheilffyrdd sydd jest ddim yn gwneud sens. Yn lle trafod yn ble dylai'r gemau peldroed cenedlaethol cael ei chwarae, 'Y Principality' ta 'Y Cardiff City Stadium' dewch a fo fyny i'r Gogs, i'r Cae Ras. Gawn ni weld faint o'r Hwntw sydd am wneud y siwrne i fyny. Gymaint â'r Gogs sydd syn teithio i'r De? Scarcely Believe. Oni bai bod Cymru yn unedig does dim gobaith caneri o annibyniaeth. Tan i berson Caergybi yn teimlo'r un fath a pherson Croesyceiliog, teimlo fel rhan o'r un uned does dim gobaith o annibyniaeth. Allwch chi gael cangen Yes Cymru ym mhob pentref a thref ond tan i ni gyd teimlo'r un fath, gyda'r un problemau ag yr un dyheadau yn anffodus pisio yn y gwynt rydym ni ond peidiwch pisio yn y gwynt yma, Storom Callum, oherwydd fel y rhaeadr yn yr Alban, ar ei ol fydd o'n dod. 



No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman