Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Wednesday 12 September 2018

Colli Diddordeb







Mae o yn digwydd o dro i dro. Ble dwi'n colli diddordeb mewn pawb a phopeth. Mae'r peiriant corfforol, meddyliol, eneidiol wedi cael digon. Efallai fod y tymor yn troi o haf i hydref rhywbeth i wneud gyda fo ond jest teimlo wedi blino gyda'r un hen rigol ydw i. Blino ar wastio fy mywyd ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae yna reswm dwi wrthi mor eger yn enwedig ar drydar. Dwi'n cadw cwmni i ddau riant mewn tipyn o oedran ag dwi'n llenwi'r oriau ble dwi ddim yn cadw golwg allan amdanynt yn llenwi'r gofodau 140 cymeriad, mae yn weddol saff a diniwed ond heb os dwi wedi colli diddordeb. Mae fy ffydd yn y dynol rhyw wedi ei cholli ers oes pys. Ers 2005 i fod yn fanwl gywir. Ers yr amser ges i fy ngharcharu. Mae fy chwerwder at fy nghyd ddyn wedi tyfu ac esblygu ers hynny a dwi ddim yn wahaniaethau. Mae fy atgasedd at y dosbarth canol Cymraeg bron mor gryf ag tuag at y Teulu Brenhinol Prydeinig. Yr un yn swancio yn Buck House ar llall yn swancio ar y maes. Ond efallai un rheswm arall dwi wedi colli diddordeb mewn bywyd ydy'r ffaith fy mod i ddim yn gwerthfawrogi pethau anarferol, arall fydol, hudol bellach. Dwi yn sbïo ar wyrthiau bach bywyd trwy lygad 'cynic'. 
Y meddylfryd rwan ydy "Oherwydd bod realiti mor ddiflas ag undonog does dim pwynt ceisio dianc oddi wrtho trwy ddilyn llwybr ffantasi". Dianc roeddwn yn ceisio gwneud cyn 2005 trwy'r defnydd o ganabis ag alcohol. Os doeddwn ddim yn gallu dianc yn gorfforol o'r carchar rydw wedi dod i adnabod fel Cymru fasa rhaid i mi ddianc tu mewn. Dianc tu mewn ta dianc oddi allan ydy'r dewis sydd yn wynebu fi. Yr olaf ddewisais gyntaf ond yn anffodus mae hwnna yn gyfrwng weddol gyhoeddus ag mi wyt yn amlygu dy hun fel rhyw fath o bar fly neu gaethwas i gyffuriau. Ar y pryd, rydych ddim yn sylweddoli rydych yn gaeth ond mae 'na lais bach yn gweiddi o dro i dro "dim ond ceisio dianc rydych chi". Y dewis cyntaf ydy'r un dwi wedi bod yn dilyn ers tipyn rŵan, y bywyd sobor ble dwi wrthi yn ceisio dadansoddi'r byd ar betws ag fy lle i ynddi ag erbyn hyn dwi wedi blino. Dwi'n dyn canol oed ag dwi wedi colli diddordeb. Yr ofn mwyaf sydd gen i ydy mi fydd yn cario mlaen fel hyn tan y diwedd. Sgerbwd o ddyn mewn siwt croen yn treulio ei amser ar y peiriannau hunan werthuso yn yr archfarchnad. "Unidentified Object in the Packing Area" 
"Fi ta'r siopa dych chi'n son amdano yr hulpan?" ag dwi newydd sylweddoli yn rhi hwyr efallai fy mod i ddim wedi gwasgu'r 'Opsiwn Cymraeg' 

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman