Gyda Phlaid Cymru ar ei wely angau fel Plaid wleidyddol neu o leiaf yn troedio dwr, diddorol gweld fod 'na giang o bobol genedlaetholgar am gyfarfod yng
Oherwydd bod Llafur Carwyn Jos gymaint i'r dde mi faswn ni yn anghytuno gyda'r Bnr Thomas a dweud yn blwmp ac yn blaen na agenda Corbyn ddylse fod gyda'r Blaid. Mae rhaid penderfynu os ydych yn beiriant hel pleidleisiau, at unrhyw gost i'ch hygrededd, neu ydych am ddilyn trywydd sydd yn boblogaidd gyda thrwch poblogaeth Lloegr sydd am weld diwedd teyrnasiaeth totalitaraidd y Torïaid dod i ben. Ni allwn wadu fod yna rhai yn ein mysg gyda thueddiadau asgell dde, rhai sydd yn pleidleisio UKIP a Thori ond pam chwarae i'r galeri yna os rydym am fyw gydag ein cydwybod am genedlaethau i ddod. Yn fy marn i mae Plaid Cymru wedi chwythu ei phlwc fel Plaid Wleidyddol o unrhyw bwys. Fydd rhaid cael Plaid sydd yn gwasanaethu'r 'Welsh National Interest' ond mi fyddai wedi syfrdanu os y 'Bois o'r Bellvue' fydd yr ateb.
No comments:
Post a Comment