Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Tuesday 28 February 2017

Lladd Amser



Mae'r Super Duper Carchar newydd wedi agor yn Wrecsam, H.M.P Berwyn. Her Majesty's Prison. Mae gen i syniad, rhowch her bloody Majesty mewn i garchar Wrecsam a rhowch y carcharwyr i mewn i Buckingham Palace oherwydd roedd trigolion y Rhos yn Gynulleidfa 'Pawb a'i Farn' wythnos diwethaf yn credu bydd y carchar newydd yma fel gwesty ac mi fydd o yn fwrn ar drethdalwyr yr ardal. Heddiw rydym yn clywed ar y cyfryngau cwestiynau megis 'Pa fydd economaidd fydd y carchar yn dod i'r ardal? faint o swyddi i bobol leol fydd y carchar yn cyflawni? Does 'na ddim son am y carcharorion. Fel hen lag fy hunan sydd wedi gwario pedwar mis mewn carchar ar y cyfandir oherwydd collais fy meddwl a mynd yn wallgof, allai ddeud wrth rheina sydd yn ofni bydd y dynion yma yn cael bywyd moethus, aur y byd a pherlau man, does gyda chi ddim syniad o'r teimlad pan mae drws y gell yna'n cae arnoch am y noson.  Adferiad/Rehabilitation yd'r buzzword dwi'n clywed yn dod fel mission statement y lle yma. Allai weud yn blwmp ac yn blaen i chi'r trethdalwyr bach, cyfyng Gymraeg fod Carchar ddim yn gweithio. Ble mae'r 'rehabilitation' yn rhoi dynion ar 23hr lockdown oherwydd diffyg staff? Ble mae'r 'rehabilitation' pan mae'r awdurdodau yn caniatáu 'gyfraith y jwngl' pan bod bwlio ag ymosodiadau yn rhemp. Os rydych am dretio dynion fel anifeiliaid mewn cage a chell, peidiwch â synnu pan fod y dynion yma yn ymddwyn fel anifeiliaid. 'Hothousing' dwi'n galw'r system carcharu Victorianaidd sydd gyda ni. Mae awyrgylch carchar fel yr hen pressure cookers ers llawer dydd. Yn slo bach yn ddyddiol mae'r tensiwn yn codi ac wedyn mae yna dwrw a stŵr. Yn Ne ddwyrain Lloegr mae Liz Truss yn teimlo fod taflu £5,000 arall at swyddogion carchar yn mynd i ateb y galw. Iawn i mi feirniadu ond beth faswn ni yn wneud i wella sefyllfa carchar? Well yn gyntaf faswn ni yn stopio anfon pobol i'r carchar oherwydd os ydych wedi creu lle i 2000 o ddynion fydd rhaid llenwi'r celloedd yma. Gwagu nhw rydym eisiau gwneud dim ei llenwi nhw.Peidiwch â rhoi mewn i garchar bobol sydd wedi dwyn pethau. Peidiwch â rhoi mewn i garchar rheina sydd yn dioddef afiechyd meddwl. Peidiwch â rhoi mewn i garchar rheina sydd yn gaeth i gyffuriau. Dim ond i rheina sydd wedi lladd a dwyn bywyd rhywun arall dylai carchar fod. Rheina sydd wir yn beryg i bobol eraill. Dim rheina sydd yn fygythiad i gyfalafiaeth fel twyllwyr a scams yswiriant.Yn ôl y son mae carchardai'r Iseldiroedd ble roeddwn ni yn wystl yn gwagu. Ydy hwn oherwydd bod y gymdeithas yn fwy gwaraidd na chymdeithas y Deyrnas Unedig? Mae 'na fwrlwm gan rhai yn dweud bydd rhai carcharorion yn siarad Cymraeg. Cadw'r Cymry Cymraeg allan o'r carchar rydym ni eisiau gwneud. Dydy o ddim yn fathodyn o anrhydedd. Yr unig Gymry dyle fod ym Merwyn ydy'r rhai sydd yn brwydro ac yn ymladd dros yr Iaith ag annibyniaeth i Gymru. Fasa Berwyn yn gallu bod fel oedd Frongoch i Weriniaethwyr Gwyddelig megis Michael Collins ag Eammon De Valera ond ble mae arweinwyr y Cymry sydd yn debyg i rain? Mae H.M.P Berwyn yn debyg i Castelli Edward I. Maen nhw wedi rhoi fo yng Nghymru i atgoffa ni'r werin datws na nhw sydd yn rhedeg y sioe sef 'Her Majesty'. Faswn ni ddim yn synnu ar ôl llenwi'r carchar yma fod nhw yn ei breifateiddio fo i drosglwyddo'r cyfrifoldeb i gyfalafiaeth ag i broffid. Os hwnna fydd ei thynged pa fath o wers 'rehabilitation' ydy hwn i westeion y gwesty yma tybed?   





 

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman