"Cadwa dy blydi Chips"
William Jones gan T.Rowland Hughes
Mae'r awydd ag awen i sgrifennu yn Gymraeg yn dod yn fwy rheolaidd erbyn hyn dwi'n falch o ddeud. Mae'r sefyllfa wleidyddol bresennol yn gresynu dyn. Mae'n edrych fel ein bod yn mynd nôl i'r oes Victorianaidd yn y Deyrnas Unedig bondigrybwyll. Mae Theresa May gyda'i golwg ar hard brexit, yn eistedd ar stepiau'r TÅ·’r Arglwyddi i wneud yn siŵr fod yr Arglwyddi yn bihafio ac yn pleidleisio ar ôl ei dymuniadau hi. Yn wir y mwy dwi'n gweld o'r ddynes y mwy mae hi'n atgoffa fi o Brifathrawes Ysgol, Ysgol Gramadeg efallai. Yn lle Malory Towers, UK Towers. Mae 'na nodweddion caredig am ei phersonoliaeth ond teswch chi yn gwisgo'r kit anghywir i 'games' mi fydd hi yn cadw chi yn 'detention' ar ôl ysgol. OK mae'r awydd ag awen i sgrifennu yn Wenglish chwerthinllyd yn dod yn fwy rheolaidd. Yma yng Nghymru mae gynnon ni 'CJ' fel Prif Weinidog ac i ddefnyddio'r trosiad yn tebygu'r sefyllfa i'r system addysg, 'CJ' yw'r athro anobeithiol yna sydd jest yn aros allan ei amser cyn cael ymddeol. Ei bwnc? Efallai daearyddiaeth oherwydd bod o'n hoff iawn o Norwy a Trefforest. Yr athro cas, mileinig ydy Neil Hamilton, yr athro fuasai’n cymryd delight yn rhoi'r 'Welsh Not' o gwmpas gyddfau plant. Be ddiawl sydd wedi digwydd i ein system ddemocrataidd sydd yn caniatáu i 7 o aelod UKIP tynnu £60,000 yr un o arian drethdalwyr ble roedd 'na ddim un o blaen. Dim dim ond yng nghefn gwlad mae'r mewn llifiad yn digwydd ac mae'r Brifddinas a bleidleisiodd yn erbyn y Senedd nawr yn paratoi'r 'big guns' Brydeinig yng nghanol y ddinas i wneud yn siŵr fydd Caerdydd fel Caernarfon yn nyddiau Edward I. Mi fydd Undeb Rygbi Cymru yn gwneud yn siwr fydd y disgyblion yn gwisgo'r iwnifform gywir gyda plyfiaid y Prince ar Principality dros ei chalonnau. Rydym ni yn slo bach wedi cael ein boddi ac ein gorchfygu gan y diwylliant Eingl Americanaidd a ddechreuodd gyda'r Gwrthryfel Diwydiannol. Yn anffodus dwi ddim yn bersonol yn gweld unrhyw ffordd yn nol i De Cymru i fod yn rhan o Gymru Rydd neu Free Wales. Wrth Gwrs fydd bobol yn siarad Cymraeg yng Nghaerdydd ond rhywbeth artificial fydd o, rhywbeth clinigol fydd y BBC wedi rhoi trwy'r sensor i wneud yn siwr fod o ddim yn ypsetio rheina sydd ddim yn hoffi Cenedlaetholdeb Cymraeg. Tan i ni gael gwared a Mr & Mrs Chips, sef ein Prifathrawon, dwi ddim yn gweld y sefyllfa yn newid anytime soon, innit!
Principality from
David Williams on
Vimeo.
No comments:
Post a Comment