Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Saturday 17 September 2016

Llyfr Unnos






Mi ddechreuais y llyfr yma am 6.00pm neithiwr ag mi orffennais am 2.00 o gloch y bore gyda saib am de a photian ar y wefan gymdeithasol yna #twitter sydd yn chwarae rhan allweddol ac yn negyddol yn stori’r awdur Mike Parker. Fel hanner Cardi, oedd yn y cyffiniau pan chwythodd pethau fyni yn y sir dwi di aros sbel tan i'r llyfr ddod yn rhydd yn un o lyfrgelloedd dan fygythiad ein cenedl. Ddim ar gael yn Sir Ceredigion felli dyma fi'n fenthyg e o Gaerdydd gan fawr syndod fod e ar gael o'r diwedd. Dwi'n hoff o fformat dyddiadur ers i mi ddarllen 'Diary of a Season' gan Lawrie McMenemy nol yn yr wythdegau cynnar pan oedd yntau yn rheolwr o Southampton. Dipyn o outsider oedd Lawrie yn hanu o'r Gogledd Ddwyrain Lloegr a gyda diffyg profiad ar bêl droed fel chwaraewr yn yr adrannau uwch ond llwyddo gwnaeth o ac o’r ôl darllen llyfr Mike Parker dwi'n argyhoeddedig fydd Mike yn llwyddo hefyd ac yn y byd gwleidyddiaeth. Ond am dymor cythryblus gafodd yr awdur. Ffraeth, agored a doniol oedd agwedd Mike Parker, rhywbeth anarferol i ddarpar wleidydd. Mae beth mae rhywun ddim yn deud weithiau yn bwysicach na beth maent yn deud a theimlad oedd gen i fod 'y Blaid: The Party' wedi setio'r hen Mike fyny am gwymp. Roedd ganddo fo amheuon ei hun cyn sefyll ond gafodd ei chysuro a sicrhau basa popeth yn iawn. Ond doedd popeth ddim yn iawn. Hwyl a sbri ag egni mawr yw dechrau'r llyfr ac mae Mike yn llwyddo sgubo'r darllenwr i fyny yn y miri. Diddorol iawn oedd cael clywed am yr enwau yma oedd berson ddim ond wedi gweld ar daflenni cyn hyn. Roedd yr etholiad yn sicr yn un i'r Blaid ennill ac nid i'r Blaid Ryddfrydol golli oherwydd bod Mark Williams yn cael ei ystyried yn 'safe pair of hands' ac yn y Cambrian News bondigrybwyll mi roedd ei lun o wedi bod yn selog ar hyd ei gyfnod fel aelod seneddol hyd yn oed os oedd o yn bresennol mewn agoriad envelop. Dwi'n cymryd dau beth o'r llyfr, pa mor galed wnaeth yr awdur weithio dros yr achos ag pa mor ystyfnig â chroes ei gilydd oedd etholwyr y Sir. Y Gymraeg a'r ddi Gymraeg. Dyma oedd yr etholiad ble oedd milwyr milain Farage yn ei anterth dros y wlad ag y teimlad oedd bod bobol yn symud tuag at y dde yn wleidyddol. Yng ngeiriau Max Boyce allaf ddeud 'I was there' pan gipiodd Cynog y set nol yn 1992 ond ers i Cynog rhoi'r gorau iddi fel aelod seneddol, cael ei cham rheoli gan y Blaid fel sedd enilladwy ag y swyddfa yn Heol y Wig fel esiampl o hynny. O beth mae'n swnio dydy o ddim wedi newid fawr ddim ers y dyddiau hynny! Roeddwn yn edrych ymlaen am glywed mwy o hanes 'Yr Arglwydd Hell' Dafydd El ond fawr oedd son amdano fo fel draenen yn ystlys yr arweinyddiaeth. Fy nghyngor i ar oll darllen y llyfr ydy peidiwch â bod yn Gardi a phrynwch y llyfr yn lle ei fenthyg e oherwydd mae 'na ryw berl ynddo fo i bawb.  Mi fasa’r dyn yma fel chwa o awyr iach yn y Cynulliad ag ar ôl darllen a mwynhau, sylweddoli "Plaid Cymru owes you one pal" Brawddeg wnaeth sefyll allan i mi oedd "When language-any language-becomes something that's calibrated rather than celebrated, we fillet it of all that makes it sing" Amen i hwnna weda i!   

Beth oedd da'r Pysgotwr Siarcod i weud ar y pryd.

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman