Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Thursday 1 September 2016

Caernarfon 2




Wel dyma fi nol yn dre! Mae wedi bod bron i ddwy flynedd ers i mi flasu awyrgylch y dref unigryw yma. Y dref fwyaf Gymraeg yng Nghymru! 84% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Taten bob yn Cafe Cei ble oedd y fwydlen yn Gymraeg gyntaf, a'r Saesneg wedyn yn edrych fel y Gymraeg. Mae'r Maes dipyn bach yn flêr, gyda cheir a phobol yn croesi gilydd fel rhyw fath o wacky races gogleddol. Y teimlad heddiw oedd 'Rhyl yn cwrdd â Phontcanna'. Y real sef Rhyl yn cwrdd ag yr afreal sef Pontcanna.
Mae Rhyl yn rough ac mae Pontcanna yn gentrified cariad neu beth bynnag ydy gentrified yn Gymraeg. Beth sydd yn braf yng Nghaernarfon ydy clywed bron pawb yn siarad Cymraeg, y plant yn y llyfrgell yn cweryla yn Gymraeg. Rydym yn bobol mor barchus fel ein bod yn anghofio gall bobol cwympo mas a chweryla yn Gymraeg. Does dim rhaid i ni gyd fynd a chyd fyw ag efallai fasa fo yn beth iachus taswn ni cael ffrae fwy aml ond dan ni ddim yn ffraeo yn Gymraeg oherwydd efallai fydd o'n costion ni ein gwaith saff neu greu rhwyg yn y teulu ond mae'r 'goddefol ymosodol' fel disgrifwyd Google Translate am 'Passive Aggressive' yn ein lladd ni. Mae ymddwyn mor dda yn llethol. O am fod mwy fel y Gwyddelod neu'r Sbaenwyr. Os ti yn 'bad mwd' ti yn bad mwd ag bydd y bobol sydd yn dy adnabod di ac yn dy garu di yn deall hynny. Yn debyg i bob gwlad Geltaidd arall rydym yn boddi ein teimladau yn y ddiod gadarn ac mae tref Caernarfon ddim yn wahanol yn yr ystyr yma. Digon o le i gael peint real neu afreal. 'Here Endeth the Lesson' Pa bynnag lesyn oedd o.
Wers i mi i bracteisio fy Nghymraeg! Mi wnaeth rhywun doeddwn ddim yn adnabod sef rhywun oedd ddim yn fy nilyn ar y trydar yn pwyntio allan fy mod wedi cam dreiglo. Mi wnaeth hwnna bwrw fy hyder braidd. Wnaeth o roi rhyw fath o emoticon wincio ar ei ôl o ond mi wnes i weld y trydari fel un goddefol ymosodol ag mi wnaeth rhywun arall sylwad tebyg. Mi faswn ni byth yn pwyntio allan i neb fod nhw wedi cam dreiglo hyd yn oed mewn sbort. Tybed sut fath o groeso fuasent nhw yn cael yng Nghaernarfon tasant nhw yn ceisio gwneud yr un peth.  Cael ei alw yn 'Gont'  neu 'Chont' efallai!  


No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman