Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Tuesday 23 August 2016

Gwneud pwpw ar lawr y Senedd




Mae'r Blogfeister ei hun wedi mynd yn gyhoeddus a dweud cyn hyn fasa UKIP yn y Senedd yn dod a thipyn o liw a llun i'r sefydliad ond doeddwn ni ddim yn rhagweld hyn. Nathan Gill a Neil Hamilton yn gwneud pwpw yn gyhoeddus ar lawr y Senedd. Well son am olchi eich trôns yn gyhoeddus! Mae Cymru gyfan yn gallu gweld y skid marks. Car Crash o Blaid ydy UKIP. "Rank amateurs punching well above their weight" fuasa Prydeiniwr yn ei ddeud. A Phrydeinwyr rhonc yn dod a'i Gwleidyddiaeth wrth Ewropeaidd mewn i Gaerdydd, y Ddinas a bleidleisiodd i aros yn Ewrop ond yn erbyn y Senedd nol yn 1997. Fasa fo wedi bod yn well syniad yn rhoi'r Senedd yng Nghaerfyrddin oherwydd dyma'r sir a chipiodd hi. Efallai fuasa Range Rover Neil ddim mor awyddus i fynd ymhellach mewn i deepest darkest Wales. A beth am yr Annibynwr Nathan Gill, he of the Church of the Latter Day British Nationalists. Does gen i ddim byd yn erbyn y Mormoniaid wyddoch chi. Well gen i rheina na'r Tystion Jehova! Dydyn nhw ddim yn ffwndro chi gymaint. Mi allai dweud fy mod wedi bod yn y Tabernacle yn Salt Lake City ac wedi cael fy nhywys o gwmpas y ganolfan ymwelwyr gan ddynes a ddywedodd fod ganddyn nhw genhadon ym Merthyr Tydfil ar hyn o bryd. Teimlo drostyn nhw braidd wedyn. Ond mae'r mewnlifiad piws wedi dod i Gymru ac mae Aelod y Cynulliad Mark Reckless wedi cael ei wneud yn Gadeirydd y grŵp newid hinsawdd. Nawr ai newid hinsawdd y Deyrnas Unedig di hwn neu hinsawdd y byd? I mi, mae UKIP yn y Senedd yn drosiad (metaphor) am y mewnlifiad i Gymru. O leua pan oedd Nick Griffin yn byw yn ymyl y Trallwng mi roeddwn i gyd yn gwybod i fod o'n hiliol. Mae'r bobol sydd yn pleidleisio i UKIP yn llawn ofn. Ofn mewnfudwyr, mewnfudwyr i Brydain ac nid i Gymru wyddoch chi. Yn Gymoedd y De maen't yn ofni fod nhw yn mynd i dwyn y gwaith sydd ddim yna beth bynnag, felli maent yn pleidleisio yn erbyn pobol a all fynd a'i gwaith nhw yn y dyfodol. Gwaith yn dod ir Cymoedd? Yn y Beibl mae gwyrthiau yn digwydd a dim yn Nhredegar.

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman