Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Wednesday 3 August 2016

E am Elitaidd


Pwy sydd yn gallu afforddi £20.00 i fynd i fewn i faes yr Eisteddfod am ddiwrnod? Mae £20.00 i rywun di-waith fel £200.00. Ac mae'r pensiynwyr druan yn cael gostyngiad o £2.00 ac yn mynd i mewn am £18.00 felli ddim pensioneers cyffredin di rhain yn amlwg. Pensioneers gyda phensiwn preifat i dalu am y fath beth. Mae 'na ostyngiad i fyfyrwyr ond fydd rhaid i fyfyrwyr gysylltu gyda'r Eisteddfod i ffeindio allan faint ydy'r pris. Beth ydy'r gyfrinach fawr? Mi gewch chi ostyngiad am bedwar o gloch y prynhawn ond erbyn hynny mae pawb yn pacio fyny i fynd adref. Waith i mi falu awyr mwn a deud fod yr ŵyl gystadleuol flynyddol yn sploetch elitaidd dosbarth canol gwyn. Does 'na very few Cymry Cymraeg di waith felly pam cynnig gostyngiad fasa ei dadl nhw dwi'n siŵr. Ond os ydy nod y bobol a'i phethau ydy'r filiwn o siaradwyr Cymraeg yma, gobeithio yn fawr fydda nhw ddim i gyd yn ddosbarth canol gwyn, oherwydd rydym eisiau 'quality not quantity' mwn. Pa ots am yr iaith os ydy'r person gyda moesau hunanol, cyfalafol pob gwlad wen arall yn y byd. Dewch flaen Eisteddfod Genedlaethol, mae rhywun yn rhywle yn ennill pres go dda! Pam dych chi ddim yn cynnig talu eich stiwardiaid gwirfoddol os ydych yn codi tal o ugain punt y dydd i ddod mewn i'r maes? Mae yn anfoesol ac yn anfaddeuol fod y cathod tew ar y top yn cael yr hufen i gyd a'r bobol fach yn cael briwsion o fwrdd yr Eisteddfod. Pam fod yr Eisteddfod, yn lle efelychi bob system gyfalafol gwneud pres arall, yn gallu dilyn esiampl sosialaidd? Talwch beth allwch chi afforddi ac yn amlwg fydd y cathod tew yn talu £200.00 a fydd y bobol fach yn cario blaen i dalu £20.00 os pres yn amlwg ydi'r nod. Dwi'n meddwl fod nhw jest eisiau cadw riff raff fel fi allan o'r maes.  

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman