A fydd yr haul yn dod mas yfory? A fydd yna wawr newydd yn wleidyddiaeth Cymru?
Mwydro bore mha a meddwl am Blaid Cymru gan fynd heibio placardiau'r blaid yn Ne Caerdydd. Mewnfudwyr i Gaerdydd ydy rhan fwyaf os nid bron bob aelod o'r Blaid. Wedodd dynes o'r ddinas heddiw i mi fod hy'n gallu clywed yn fy llais fy mod o'r gogledd. Mae sawl gogleddwr a gorllewinwr yn dod lawr i Gaerdydd ond mae'r llifiad y ffordd arall ddim yn digwydd. Tasa na mwy o deithio a chyfarfod rhwng pobol y De a'r Gogledd a dim just am y Rygbi a'r Eisteddfod efallai fasa pethau yn edrych yn well iddynt. Mae anghenion bobol Caergybi yn hollol wahanol i bobol Caerdydd ac maent yn disgwyl i un Blaid cynrychioli'r ddau le.Nid un Gymru ydy o beth bynnag mae pobol eisiau meddwl! Dydyn ddim yn unedig. Rydym yn rhanedig oblegid iaith a daearyddiaeth a rhain ydy'r ffeithiau moel. Roedd mewnfudwyr Caerdydd yma cyn mewnfudwyr Gogledd a Gorllewin Cymru ac maent gyda'i gwleidyddiaeth benodol. Mi bleidleisiais dwywaith i'r Blaid Werdd(Postal Vote) ac un waith i Blaid Cymru (oherwydd fod na ddim Gwyrdd yn sefyll) fel Comisiynydd Heddlu. Ddim eisiau'r hen Alun Michael i ennill. Gwleidyddion Proffesiynol, ych a fi! Dydd Gwener neu ddydd Sadwrn fyddwn ni gweld lliwiau newydd yn y Cynulliad siŵr o fod os yw'r polau piniwn yn gywir. Dipyn bach o biws ond dim porffor Prince, mae o wedi mynd ac wedi gadael ni gyda phobol sydd yn camddefnyddio'r lliw. Yr eironi!
No comments:
Post a Comment