Ffolineb aderyn brith i son am yr adar glas
Y Ddraig yn teimlo llai Cymraeg
Parch at ddyfalbarhad y cefnogwyr.
Ond maen nhw yn teimlo am Vincent Tan
yr un peth ac mae fy nghymydog yn teimlo
amdana i
"We didn't want you here in the first place"
Mae fi a Vin the Man yn fewnfudwyr!
Mae'r selogion yn teimlo fel trigolion Sir Feirionydd.
Rydym wedi boddi ei lan a dangos ei man gwan.
Does dim calon da Cymru bellach.
Os yw ein 'Big City' ddim yn croesawi'r iaith: Pa obaith?
Beth am i ni 'Y Welshies' troi ein cefnau a newyno'r lle o’r iaith
Dros nos, ddim gair o Gymraeg!
Fydd sawl un ddim yn sylwi
Dim ond dynion pres 'Brains a Rygby'
Fydd triongl Pontcanna yn dawel nawr
Y Mochyn Du yn troi nôl i fod yn 'Black Pig'
Archfarchnad lle bu Clwb Ifor Bach
Y Senedd yn symud i Gaernarfon
Fydd hogiau Caergybi dal yn dal trên i Gaerdydd
Oherwydd yn ei thyb nhw mae Caerdiff yng Nghymru
Ond we who lives ere knows different like.
No comments:
Post a Comment