Rhandiroedd
cwrw a cocaine
Cymry a'i Chymreictod
Ddiystyr
Didostur
Heb Iaith
Hunaniaeth
Ar lan y môr mae rhosod cochion
Ond ddim rhai'r blaid lafur ydy'r rhain
Mae'r rheina wedi boddi wrth y lan.
Mae gwaed ar ei dwylo reit enuff
Tw Reight
Scarcely Biliff ond digon o Bailiffs
Ein bod wedi troi mewn i McDonalds 24 awr
Parc Cenedlaethol Eryri aka the Reservation
Ble mae'r chwyldroad diwydiannol wedi bod, mae o wedi gadael ei ôl
Gyda'r iaith fain
Yr iaith ffwrdd a hi
Yr iaith ddiog
Yr iaith hawdd
Iaith Cyfalafiaeth
Does dim pwynt honni mae hwn ydy iaith y nefoedd
Oherwydd bod pobol wedi gwrthod credu bellach
Nawr dyneiddiaeth ar Dduw Dawkins di pob dim.
Dwi ddim yn honni fod 'na fath beth ond dwi yn honni fod 'na frwydr ar led.
Frwydr calonnau a meddyliau.
Mae rhaid i gymryd mantell Martin a Mohandas Mahatma Ghandi
Duw Cariad Yw
Ond gwatwch eich cefnau.
No comments:
Post a Comment