Y lleisiau boreol ar Radio Cymru
Yn gwthio trwy fy ngwythiennau mawr
Fel saim a braster
Y llais bach miniog yna ar fore Sul
Yn son am beth ysbrydol mewn ffordd mor faterol
Yn atgoffa fi o'r pulpud, oedolion yn perswadio plant
I fod yn blant da, i gredu mewn Duw ac i gydymffurfio
Well, dwi yn credu mewn Duw, credwch neu beidio
Ond dim fel y Duw yn y Beibl,
Llyfr a gafodd i sgrifennu gan ddynion
Does dim rhaid i mi fynd i gapel neu eglwys i ddangos fy lifrau Cristnogol
Fy 'Streipiau' bach person da.
Oherwydd addoli yn gyhoeddus ydy hwnna, rhag eich cywilydd chi.
A waeth i ni siarad am gywilydd ar ddiwrnod Saint Padrig
Gyda'r Pab newydd da i slippars coch dan fwrdd yn y Fatican
Dwedwch wrthyf y rhai ffyddlon, pa ddaioni ydynt yn ei wneud?
Fel bob sefydliad arall mae ei chysgod yn fwy gwnâi het
Rydym ni bobl gyffredin, y werin, wedi ein gorthrymu gan grefydd
Yn gweiddi 'Thou Shalt Not'.
Roedd yr addoliad yn fawr ddoe yn Stadiwm y Mileniwm.
Digon o 'Hymns and Arias' a ffydd, gobaith cariad i bara tan flwyddyn nesaf
Ond dyn ni yn genedl o ragrithwyr dweud?
'My People'
No I don't think so, I am not one of them.
A hwnna ydy'r unig ffordd i guro'r gormeswyr?
No comments:
Post a Comment