Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Monday 14 January 2013

Rhyfeddod o Rhyfeddodau/Miracle of Miracles

Heddiw am y tro cyntaf mi wnes i arwyddo ar JSA yn Swyddfa Gwaith, Heol Siarl, Caerdydd. Roeddwn yn trosglwyddo o ESA ar ôl methu y prawf gwaith a rhoddir gan ATOS. Mi dderbyniais fy nhynged oherwydd mae fy nghyflwr iechyd meddwl wedi gwella ac mi rydw i wrthi yn gwneud gwaith gwirfoddol. Derbyniais benderfyniad Atos oherwydd ges i wasanaeth ardderchog yn Gymraeg a heddiw mi ges i wasanaeth unwaith eto yn wych gan Albanwr oedd wedi dysgu Cymraeg ac yn siarad yn well na fi. Mi roedd o yn gwrtais ac yn ddealladwy ynglŷn â chyflwr iechyd meddwl. Yn wir roedd yn fraint i gael gwasanaeth fel hyn. Mi roeddwn wir yn bryderus am y digwyddiad a ddim yn disgwyl cael gwasanaeth Cymraeg. Yn sgil canlyniad y cyfrifiad mae yn ddyletswydd arnom ni rŵan i fynnu gwasanaeth yn y Gymraeg. Mi allwn feio'r mewnlifiad ac mi allwn wneud esgusodion di ri ond ni'r Gymru iaith gyntaf sydd gyda'r cyfrifoldeb rŵan i fod yn ddi gywilydd yn gofyn am bopeth yn Gymraeg. Dwi wedi cael fy syfrdanu a fy siomi ochr orau gan wasanaeth yn Gymraeg yn ddiweddar. Roedd y profiad gan waith yn well yn Gymraeg! Teimlais yn fwy hamddenol ac yn barod i drafod mewn ffordd adeiladol na taswn ni wedi bod yn trafod yn y Saesneg. Os yw Cymru yn gofyn am wasanaeth Cymraeg yn enwedig oddiwrth sefydliadau'r llywodraeth mae yn ddyletswydd arnyn nhw wedyn ond mae rhaid i ni ofyn. Dechrau o'r dechrau! Dwi wedi cael fy argyhoeddi fod 'na ewyllys da allan yn fanna ond mae yn dechrau gyda ni'r Gymru Iaith Gyntaf. Roeddwn yn edmygu'r Albanwr yma wnaeth delio gyda fi, am ddysgu Cymraeg fel ail iaith a hefyd sylweddoli fod ni wedi chwarae rygbi yn erbyn ein gilydd fel disgyblion ysgol nol yn 1983. Mi wnaeth fy ysgol deithio i'r Alban ac roedd y cyfaill yma yn chwarae yn yr ail reng a fi fel bachwr. Tydi'r byd yn fach bois bach a'r iaith dysgon ni yn ein hysgolion oedd Lladin nid y Gymraeg ond nawr ni'n dau ar dan dros y Gymraeg.
 




Today for the first time, I signed on at the Job Centre in Charles Street, Cardiff for JSA having failed the ATOS Work Capability Test. I accepted my fate because my Mental Health has improved and it is my intention to undertake voluntary work in the first instance. The ATOS interview was conducted in Welsh because I asked for it. The Interview today was conducted in Welsh because I asked for it and I was interviewed by a Scotsman from Dumbarton who had learnt Welsh and now spoke it everyday as part of his work for the Job Centre and the Department of Work and Pensions. The experience was much better than I had anticipated and I was relaxed and happy to discuss matters in a mature fashion. I have now had a Atos Interrogation in Welsh, an Advanced Drivers Course in Welsh and now a JSA New Claim application in Welsh and all because I asked for these services. I asked because I felt bloody minded at the result of the Census Figures. As we spoke, it turned out that we had played Rugby against each other way back in1983 when the school I attended did a tour of Scotland. He was a second row for a school in Dumbarton and I was a hooker for my school. We played on Saturday morning and then went to Murrayfield to watch the Wales v Scotland game and here we were all these years on discussing my JSA application and my Mental Health in Welsh. 
We had both studied Latin in school.

If you speak Welsh, please ask for services in Welsh.   

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman