Waeth i mi ddechrau sgrifennu yn Gymraeg mwn, i feddwl fod teitl y blog yma yn cynnwys y Gymraeg yn gyntaf! Am beth rwyf am gwyno heddiw? Wel, am bentref Llanon yn Sir Geredigion, wel i fod yn fanwl gywir perchennog y tacsis sydd yn wneud y daith trwy'r pentref yma yn anoddach ac yn fwy lletwyth na ddyle fe fod. Mae'r A487 o Aberystwyth i Aberaeron yn boen tin a dwi ddim yn hoffi dreifio arno fo. Mae sawl damwain ar hon, weithiau yn ddyddiol! Os ydych ddim yn stuck tu ôl i lori Mansel Davies neu du nol i Fws araf Arriva gallech fynd o Aber i Aber mewn pum munud ar hugain efallai. Yn dod o Aberaeron mewn i bentref Llanon, heibio'r bacws ar y chwith a'r bwtcher ar y dde mi ddewch i drofa ble mae tacsis yn cael i barcio! Allith o ddim bod yn fusnes tacsis llewyrches oherwydd maen nhw wastad wedi parcio yna. Fel modurwr da, dych chi yn slofi lawr a gan amlaf stopio i traffic o Aberystwyth ond fy nghwyn i ydi pam ddylech chi? Mae hwn yn ffordd fawr yn mynd trwy bentref! Mae pentrefi bach y wlad yn amlwg ddim wedi adeiladu i gymryd volume y traffic sydd ar yr hewlydd dyddiau yma. Wastad yn teimlo dros unrhyw un sydd yn ddigon ddewr i seiclo ar yr A487. Mae niferoedd y ceir yn gyfoglyd! Beryg Bywyd ydi'r ffordd yma! A wnaeth Cyngor Sir Ceredigion rhywbeth am y niwsans yma? Dim fears sa beryg!
I might as well start writing in Welsh to think that the title of this blog includes Welsh first (and I need to get some practice in). What am I going to complain about today? Well, Llanon village in the county of Ceredigion, well to be exact the taxi owner who makes the trip through the village here harder and more dangerous than it need be. The A487 from Aberystwyth to Aberaeron is a pain in the arse and I do not like driving on it. There are numerous accidents on this, sometimes on a daily basis in the summer!
If you are not stuck behind a Mansel Davies lorry or a go slow Arriva Bus you could go from Aber to Aber in twenty-five minutes maybe. Coming into the village of Llanon from Aberaeron, passed the bakery on the left and the butcher on the right you will suddenly screech to a halt if you are not aware that two large white taxis are parked on the left hand side! A good motorist slows down coming from the opposite direction but more often than not it is a paint scraping contest!
This is the main road passing through the village! The small villages of the country are clearly not built to take the traffic volume on the roads these days. I always feel sorry for anyone who is brave enough to ride a bicycle on the A487. The numbers of cars are nauseous! Are the Highways likely to do anything about this? Well if Ceredigion County Council's track record is anything to go by....NO!
No comments:
Post a Comment