Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Wednesday 26 July 2023

Ar Bigau'r Drain



Dwi ar bigau'r drain ag dwni'm pam. 

Dych chi'n cael y teimlad ble dych i dan fygythiad. Bygythiadau ym mhob man. Bygythiadau dychmygol yn aml iawn. Dyma sut mae pobol propaganda yn gweithio. Yn pwyso eich botymau ofn yn eich isymwybod. Yr amgen, yr arall, yr eraill.

Oes yna air Cymraeg am gaslighting dw’ch? Mae rhai pobol dych chi'n adnabod yn chwarae ar eich ofnau ac yn cael hwyl yn gwneud hynny. Mae yn rhoi pleser iddynt i weld chi yn anghyffyrddus.

Mae hunan addoliad, hunan serch yn perthyn i rai pobol. Y narcissists bondigrybwyll. Sut ydach chi'n gwybod os dych chi'n delio gyda hunan-addolwr? Dydy o ddim gwastad yn glir. Maent yn gallu cuddio tu ôl i gyfaredd, swyn.

Mae'r hunan addolwr eisiau rhywbeth oddi wrthoch chi. Gan amlaf rhywbeth ni allant gymryd meddiant ohono sef eich enaid neu eich urddas, eich haelioni neu eich uniongyrchedd.

Maent yn gweithio arnoch chi fel dŵr yn llifo dros garreg. Jest digon bob tro i greu anniddigrwydd ond y swyn yn aros yn yr atgof. Dych chi'n mynd nôl am fwy a fwy o gamdriniaeth emosiynol ag dych chi jest ddim yn deall pam. 

Mae'r hunan-addolwr wedi sylwi eich bod yn dioddef o hunan barch isel ac maent yn chwarae ar y ffaith yna bob tro dych chi'n cwrdd. Mae ymostyngiad neu 'condescension' yn arf mawr yn ei arfogaeth oherwydd maent yn ymwybodol yn y faith eich bod wedi cael eich cywilyddio gan bobol mewn awdurdod yn y gorffennol. Sut maen nhw yn gwybod? 

Oherwydd maen nhw wedi dioddef yr un fath ond maent wedi delio gyda'r siom mewn ffordd wahanol. Mae nhw wedi troi mewn i'r person wnaeth cywilyddio nhw. Fel cameleon dynol maent yn gallu trawsnewid ei phersonoliaeth a'i ddull o fod yn syth os yw'r sefyllfa yn gofyn am hynny. Y sefyllfa yna ydy'r un ble maent yn ei elwa.  Gan amlaf yn ariannol ond yn gyffredinol yn emosiynol. Mae rhaid iddynt ddod allan o bob cyfarfod tasant nhw yn dod allan o ornest, wedi i'w ennill.

Dim ond yn ddiweddar yn fy oes dwi wedi dod yn ymwybodol o'r fath bobol. Bobol sydd ddim yn stret gyda chi. Bobol gydag agendor. Bobol sydd yn atgyfnerthu'r teimlad ynddoch chi na dim ond yn ymwneud gyda chi i elwa mewn rhyw ffordd.

Mae hwn yn gallu bod yn sefyllfa anodd i chi oherwydd mae bob achos fel hyn yn gwanhau eich ymddiriedolaeth yn y natur ddynol ag mi rydych yn cilio mwy a mwy rhag ymwneud a phobol. 

Dwi a'r bigau'r drain.     

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman