Language was the absolute key to all of this

Total Pageviews

Thursday, 19 January 2023

Cofnodion Dyddlyfr Adran Gwaith a Phensiynau

 

Mi fasa yn arbed amser i chi ag i mi os tasech chi yn gallu dweud wrtha’i trwy'r dyddlyfr yma os ydw i yn gymwys i unrhyw fudd-dal o gwbl gan y wladwriaeth les.


Dwi wedi datgan fy mod gyda £😛 mewn cynilion ar ôl gwerthu fy nhŷ yng Nghaerdydd. Hwn oedd y broblem y tro diweddaf mi wnes i wneud cais. Gwrthodwyd eich ymholiadau personol mewn i'm materion eiddo a chynilion.


Dwi yn hysbys i chi fel dyn 56 oed a gafodd ddiagnosis o anhwylder dau begwn yn 2006 ag mi roeddwn yn derbyn budd-daliadau llawn tan 2013 oherwydd hyn.


Mi ges i drafodaeth gref gyda rhywun dros y ffon yn gweithio i DWP yn datgan "Os nad oeddwn yn fodlon cael tystysgrif salwch gan y meddyg, na faswn ni yn gymwys i unrhyw fudd-dal"


Dwi wedi cofrestru gyda Meddyg yn Aberystwyth ond dwi ddim am wastraffu ei amser o/hi yn gofyn am dystysgrifau salwch pan mae o yn ddigon hysbys i chi fy mod i wedi dioddef salwch meddwl hir oes sydd yn effeithio ar ba fath o waith a gymaint o waith dwi fodlon gwneud.


Cyn i mi ddod i gyfarfod i gael gwybod fy mod i ddim yn deilwng o unrhyw budddal o gwbl a bod rhaid i mi fyw ar gynilion tan i rheina cyrraedd eich trothwy, mi faswn yn ddiolchgar tasech chi yn gallu esbonio i mi sut mae eich cyfundrefn bresennol ddim yn torri hawliau dynol unigolion y Deyrnas Unedig.


Dwi wedi ffeindio allan neithiwr trwy'r Government Gateway fy mod wedi talu 31 o flynyddoedd o Yswiriant Gwladol mewn i'r system.

Os dwi yn mynd i gael fy nhrin yr un ffordd a ges i o blaen pan wnes i gais am Gredyd Cynhwysol rhwng Ionawr 2019 a Rhagfyr 2020 ble roedd bobol yn ffonio chi fyny ac yn amau chi o hawlio yn anghyfreithlon dwi ddim am symud ymlaen gyda'r cais.


Dwi wedi bod yn byw ar gynilion rhwng Mai 2021 a rŵan! 21 mis heb un rhyw gymorth gennych chi ag eich llywodraeth.


Mae sawl un yn marw neu yn cymryd bywydau ei hunan oherwydd y driniaeth maent yn cael gan yr adran gwaith a phensiynau.


Yr unig beth dwi eisiau gwybod ganddo’ch chi cyn i mi fynychu cyfarfod a mynd trwy'r rigmarol yma eto.


A ydw i (o'r wybodaeth sydd gyda chi gerbron) yn gymwys i unrhyw budddal o gwbl os gwelwch yn dda?


Dwi wedi datgan fy mod i ddim am gyflwyno tystysgrifau salwch gerbron na hefyd fyddai yn arwyddo un rhyw ddarn o bapur all peri i fy nghyflwr salwch gwaethygu.


Yr eiddoch yn gywir


David Williams



Darllen Pellach



No comments:

Post a Comment

Neither in work nor looking for employment

"Hi I am Daf Williams and I am economically inactive." I feel that I am in some kind of group therapy where I have to admit my add...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman