Un o gwersi mwyaf bywyd ydy dysgu dweud dim.
Mi wnewch chi osgoi ffrae, osgoi cael y bai.
Mi fydd siwrne eich taith yn haws
os allwch ysgwyd eich pen ar ôl cwestiynau traws.
"Beth sy'n bod gyda ti te was?"
Paid ag ymateb, paid fod yn gas.
Mae o fel pasbort i fywyd gwell
ni fydd y man gwyn fan draw mor bell.
Os gei di dy herio gan leisiau miniog main
Jest sefyll ble wyt ti'n stond a gwna fel bwgan brain.
Does dim siawns o ennill, Paid! Paid creu cymhlethdod bennill.
Gwna fel y person bach ar y Prom wrth osgoi sefyll yn y dom
"Say Porthcawl is Best"
No comments:
Post a Comment