https://museum.wales/collections/online/object/fe514466-76a7-3889-8f4b-01132642ddcd/Badge/
Yn anffortunus iawn i bobol tu allan y 'bubble' Cymraeg broblem ydy'r iaith Gymraeg. Broblem wleidyddol sydd yn gwahanu pobol o fewn Cymru. Broblem sydd wedi achosi i Blaid Cymru rhoi'r gorau iddi yn ei ymdrechion i fod yn Blaid sydd yn cynrychioli Cymru gyfan. Mae'r olwynion wedi dod i ffwrdd o'r cerbyd oherwydd bod un drws yn ormod wedi cael ei chnocio gyda'r ymateb "Sorry Luv, I don't speak Welsh". "Bbbbut you don't have to speak Welsh to be a member of Plaid Cymru o’r to vote fôr Plaid Cymru". Gyda'r ymateb llipa amddiffynnol yma mae'r drws yn cael ei chau ar yr ymgeisydd ac ar yr ymgyrch unwaith eto.
Yr elfen o orfodaeth yma sydd yn dychryn fi! Fel un a gafodd ddim addysg Cymraeg ar ôl saith oed, dwi'n sgrifennu mewn iaith y cartref ag iaith yr aelwyd a dyna ble dyle'r Gymraeg fod yn gryf, ddim mewn ysgolion neu mewn Prifysgolion, ddim fel mae dynoliaeth Cymraeg ar hyn o bryd. Dynoliaeth sydd yn gyffredinol yn gweld yr iaith Gymraeg fel problem i'w ddatrys ac nid fel trysor i gael ei warchod.
Fel cyn athro a cyn athro cyflenwi a wnaeth wers cyflenwi mewn ysgol yn Drelái o bob man dwi'n cofio mynd mewn i ddosbarth ble oedd neb yn fy adnabod i a minnau yn adnabod dim o'r disgyblion. Gwers Cymraeg! Mi wnes fy ngorau ond ar ôl hanner awr mi aeth yn ddadl wleidyddol gyda minnau yn datgan i'r rhesi blinedig "Fy mod i ddim eisiau byw mewn Cymru heb y Gymraeg" gydag un hogyn yn sefyll i fyny a dyrnu'r wal gyda'i ddwrn "What effing use is it?" gan gerdded allan. Da iawn Mr Williams am elyniaethu dosbarth arall o blant yn erbyn y Gymraeg. Hen ffrind yn datgan fod ei gyn athro Cymraeg yn alcoholig ag o sail hynny "We learnt nothing".
Mae'n edrych fel bod y pwyslais yn mynd i fod i gael mwy o athrawon sydd yn medru'r Gymraeg. Ond os yw ganran o athrawon yn lleihau yn gyffredinol pa obaith ydyw cael mwy o athrawon Cymraeg trwy ddrysau'r dosbarth?
Yn y Fro Cymraeg efallai faswn yn cael fy llosgi ar y goelcerth am ddatgan y fath barn am iaith y nefoedd ond yn weddill Cymru, y Gymru ble mae Plaid Cymru yn cael problem cyrraedd gyda'i neges mae'r realiti yn dra gwahanol. Ddiffiniad gwallgofrwydd ydy gwneud yr un ymarferion dro ar ôl tro a gobeithio am ganlyniad gwahanol.
Beth sydd rhaid i gwestiynu a chael ei ddatrys yn fy nhyb i ydy'r 'Meddylfryd Cymraeg'.
Pam fod athrawon yn mynd i daflu ei hunan ar faes y gad i geisio ysgogi plant sydd wedi cael ei ddieithrio gan y cyfnod clo, i ddysgu Cymraeg, pan mae pobol yn gwneud bywoliaeth reit braf yn y cyfryngau Cymraeg diolch yn fawr i chi? Dim ar enillwyr pres mawr ddylse y cyfrifoldeb am ddyfodol yr iaith fod? Ddim ar ysgwyddau bobol ifanc sydd wedi cael ei swyno gan yr hysbysebion 'Seize the Day' am ddiffyg reality y byd dysgu.
Mewn byd ble rydym yn chwarae rhan fwy eangfrydig oherwydd Cofid 19 ag newid hinsawdd ydy o ddim yn dyledus arnom ni fel Cymuned o Gymry Cymraeg i weithio allan beth ydy'r ffordd orau o drosglwyddo'r iaith Gymraeg i'r rheina sydd yn dewis ei siarad â dim ceisio gorfodi pobol i fynd i fod yn athrawon y Gymraeg ym myd addysg sydd ar ei bengliniau. Popeth yn Gymraeg wrth gwrs yn enwedig tirwedd (realiti)
No comments:
Post a Comment