Dwi newydd gael yr ysfa i sgrifennu rhywbeth yn Gymraeg. Mae'n hwyr ond mae yna rywbeth yn corddi ynddai ac wedi bod er stalwm. Rhwystredigaeth o fod yng nghlwm i un wlad a'r wlad yna ydy Cymru. Dydy hyn ddim i wneud gyda chyfnod y clo. Mi roeddwn yn teimlo fy mod yn boddi cyn hyn. Caerdydd, Aberystwyth, weithiau Caernarfon, yn anaml Rhuthun and all points in between. Dwi di gresynu gyda'r diffeithwch.
Mi roedd y twristiaid arfer dod yma a meddwl ei fod yn odidog ond sbariwch eiliad i feddwl am y rhai sydd ddim yn gallu gadael oherwydd dyletswyddau teuluol. Dwi ddim yn meddwl erbyn hyn tasa na ddewis yn y dyfodol faswn ni yn aros yma, gwlad annibynnol neu beidio.
Dwi wedi blino ar y Yes Cymru rownd y rîl mha. Ble maen nhw wedi bod dros y degawdau diwethaf? Yn cuddio yn rhengoedd Plaid Cymru ac wedi ffeindio cyfle gyda'r pandemic i wthio'r agendor ar y cyfryngau cymdeithasol. Mi roeddent yn gorymdeithio blwyddyn ddiwethaf, Caerdydd, Merthyr a Caernarfon.
Dwi'n teimlo fel rhyw fath o fradwr yn sgrifennu hwn ond mae'r wefr roedd gynnai am annibyniaeth i Gymru ddim mor gryf ag oedd o bellach. Pam? Dwi'n cwestiynu fy hun yn aml ag yr unig ateb ydy oherwydd dwi wedi byw tu allan i Gymru ac wedi bod yn dyst i ddioddef cymdeithasol yn Lloegr sydd erbyn hyn yn gwneud i mi amau cenedlaetholdeb. "Mi wnawn ni edrych ar ôl y rhai sydd yn dioddef yn well na'r rhai sydd wrthi ar hyn o bryd?" Yn wir? Y pwynt mawr gyda sawl un ydy "Annibyniaeth Gyntaf" ag mi wnawn ni sortio ein problemau allan ar ôl ni.
Un llygeidiog felli, Cymru'r wlad ydy popeth iddynt hyd yn oed os ydynt ddim wedi teithio'n bell o'i filltir scwar. Syniad ydy Cymru iddynt ac mae o wir wedi mynd i bennau rhai. Iawn, cariwch chi mlaen. Well gen i fod yn 'ally' neu 'cymrawd' bondigrybwyll nag aelod o'r ffyddloniaid. Mae geiriau James Connolly yn dod yn gliriach bob dydd yn hyn o beth.
No comments:
Post a Comment