Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Thursday 20 August 2020

Yng Nghysgod Comedi: Stori Fer Ffuglen


Mae hwn yn waith ffuglen. Mae enwau, cymeriadau, busnesau, lleoedd, digwyddiadau, locales a digwyddiadau naill ai'n gynhyrchion dychymyg yr awdur neu'n cael eu defnyddio mewn modd ffug. Mae unrhyw debygrwydd i bobl wirioneddol, byw neu farw, neu ddigwyddiadau gwirioneddol yn gyd-ddigwyddiadol yn unig.


Sbïodd Greta i fyny at adeilad y Senedd. Na ddim y Greta yna. Greta Franks o Pentrebane, Ysgol Plasmawr, Caerdydd ag nawr yn sefyll yn sbïo ar yr adeilad mawr hyll. Pwll Nofio oedd ei thad yn ei alw fo gyda gwleidyddion doedd ddim yn gallu nofio. Doedd gwleidyddiaeth fel y cyfryw yn golygu dim i Greta. Roedd hi'n ymwybodol fod hi gyda'r hawl i bleidleisio a dyna gyd.Yn edrych o'i gwmpas ac yn gweld yr un hen wynebau roedd hi'n gweld ar y teledu bob nos.

"Fyddai'n falch fod nôl ar y bws" dwedodd ffrind gorau Greta, Catrin, "Mae'n fflipin oer" 

"Beth oedd syniad Mr Rhys i ddod lawr fan hyn beth bynnag?"

"Gwleidyddiaeth Greta" ynganwyd Catrin yn llais Mr Rhys "Cig a gwaed bywyd"

Wnaeth Greta chwerthin ar hwn a chodi ei chalon dipyn bach.

Roedd Mr Rhys yn ei elfen, yn siarad da pawb ac yn amlwg yn diflasu gyda'r ffaith ei fod o ddim yn gallu ysgwyd llaw gyda mawrion y genedl. Roedd penelin ddim yn gwneud y tro o gwbl.

"Efallai fyddi di fyny mewn manna rhyw ddydd?" dwedodd Catrin

"Huh, ti yn fwy tebygol na fi"

"No Way, dwi eisiau fod yn comedienne, yn pwyntio tuag at y Glee Club,mewn manna dwi eisiau bod"

Glywodd un o fechgyn ei dosbarth beth ddwedodd Catrin

"Maen nhw yn edrych am lanhawyr a phobol tu ôl y bar" 

"Hey Griff, ti'n gallu mynd yn ddall yn gwneud hwnna?"

"Gneud be?"

"Gwrando ar sgyrsiau bobol eraill"

"Sut hynny?"

A gyda'r cwestiwn mae Catrin yn esgus rhoi ddau fys yn ei lygaid o

"Dim ond trio helpu o ni"

"O ia? Bachgen un ar bymtheg oed yn ceisio helpu? Ar y llwyfan yn fanna dwi eisiau bod yn gwneud pobol llefain da chwerthin."

"Mi wneud di nhw llefain yn sicr"

Roedd Greta i ffwrdd gyda'r tylwyth teg, yn edrych yn bell ar draws y môr glawdd tuag at Benarth. Roedd hi'n gwybod yn barod fod popeth mewn bywyd yn ffals. Rhyw bantomeim oedd addysg, jwmpio trwy gylchoedd er mwyn cael cymwysterau i swyddi doedd dim yn bodoli. 

Roedd hi'n gwybod na'i thynged hi fasa’n gweithio mewn rhyw siop, TK Maxx neu rywbeth tebyg. Fasa Gwleidyddion Mr Rhys ddim yn gallu stopio hi rhag gwneud hwnna ag basa’r Gweinidog gyda chyfrifoldeb am yr Iaith Cymraeg ddim grym o gwbl dros y ffaith nag yr eiliad fasa hi yn gadael tir yr ysgol am y tro olaf fasa’r tro olaf iddi siarad Cymraeg.

Yn dringo fyny'r bws mae Greta yn troi at Catrin "Yn Gymraeg neu Saesneg fyddi di yn gwneud dy gomedi?"

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman