Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Friday 21 August 2020

Henaint ni ddaw ei hunan

Henaint ni ddaw ei hunan. Yn fy achos i, mae o wedi cyrraedd gyda dos o sinigiaeth ag anhapusrwydd gyda'r mudiadau annibyniaeth i Gymru. Dwi erioed wedi pleidleisio i unrhyw blaid fuaswn allu ddisgrifio fel un unoliaethwr sef Llafur neu Geidwadwyr. Mae'r nod o Annibyniaeth yn un hollol ddilys ond mae'r ffordd o fynd o gwmpas y peth yn fy nrysu. Dwi meddwl fod y Cyfryngau Cymdeithasol wedi rhoi rhwydd hynt i'r byd a'i betws ag yn yr achos yma'r, y Betws* sydd yn ennill y dydd, un ai'r Coed neu Gwerfyl Goch. Y peth wnaeth corddi fi fwyaf yn ystod y pandemic oedd gweld gwladgarwyr yn bloeddio dros annibyniaeth pan oedd cannoedd yn marw bob dydd bob ochr o Glawdd Offa. Roedd yn dod ar draws yn oeraidd a ddigalon. Roedd dyn yn teimlo fod cenedlaetholwyr Cymraeg wedi darganfod y brechlyn am Cofid 19 ac yn gwrthod deud wrth neb neu efallai mai mor syml ar ffaith fy mod i yn gwario gormod o amser ar drydar ac yn gam ddehongli pop peth dan haul. Mae'n hawdd gwneud. 

 Yn wahanol i Genedlaetholwyr Albanaidd oedd yn dangos parch a difrifoldeb i'r sefyllfa roedd pennau poeth Coedpoeth yn mynd o gwmpas yn ei chylchoedd cyfryngol yn diawlio'r ffaith doeddent ddim yn gallu gorymdeithio fel roedd ei arferiad. Esiampl o Gaerdydd, Caernarfon, Merthyr a Cofid-19. Mae pethau mawr 'pandemic' yn effeithio'r byd a dim yn unig blwyfoldeb y Cymry. Dyma beth sydd yn wrthynt i mi ar hyn o bryd, fod y nod sef 'Annibyniaeth i Gymru' o fewn y wladwriaeth Brydeinig yn bwysicach nag unrhyw beth arall. The end justifies the means? 


Mae 'na fwy na un ffordd i'w gael Wil yw wely a dwi yn meddwl fod y ffordd bost modernaidd o wthio a gwthio gan obeithio bydd rhyw floedd o bont yn taro gartref yn wrth chwyldroadol. A ydym ni yn edrych am ffordd 'Calonnau a Meddyliau' yn y mudiad Cenedlaethol neu ydy'r dyddiau yna drosodd? Dwi ddim yn meddwl bod ni wedi trio fo eto! Mae popeth yn wrthyn.
 "Os ydych chi ddim gyda nii, i chi yn ein herbyn ni"
Dwi'n siŵr mi gai fy ngalw yn Dic Siôn Dafydd neu fradwr am sgrifennu'r fath beth yn 'iaith y nefoedd' ond mae rhaid deud hi fel y rwyf yn ei gweld hi.


"Mae'r iaith yn bwysicach na hunanlywodraeth. Yn fy marn i, pe ceid unrhyw fath o hunanlywodraeth i Gymru cyn arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yn holl weinyddiad yr awdurdodau lleol a gwladol yn y rhanbarthau Cymraeg o'n gwlad, ni cheid mohoni'n hiaith swyddogol o gwbl, a byddai tranc yr iaith yn gynt nag y bydd ei thranc hi dan Lywodraeth Loegr."
TYNGED YR IAITH Darlith radio flynyddol BBC Cymru gan Saunders Lewis.Darlledwyd 13 Chwefror 1962. 
   

*Betws- beadhouse (plural beadhouses) (historical) An almshouse for poor people who pray daily for their benefactors.   

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman