#tarorpost barn unigryw neu tybed os oes eraill yn teimlo yr un fath? https://t.co/SGcTBES9nW— Red Button🔴Theatre (@davidredbutton) June 27, 2018
Dwi'n teimlo fod rhaid i mi gyfiawnhau beth wnes i drydar y prynhawn yma. Ar ôl anfon y geiriau ffwrdd i'r gofod mi wnes i sylweddoli fod gyda fi cymhleth israddoldeb ynglŷn â'r Gymraeg. Dyna pam sgrifennais i'r geiriau sarhaus ynglŷn â'r bobol sydd yn mynychu Tafwyl ag yr Eisteddfod Genedlaethol. Cofio nôl i ymweliadau ar faes yr Eisteddfod dros y blynyddoedd ag y cof mwyaf oedd fy mod i ddim yn perthyn i'r gymdeithas yma. Dwi yn gallu siarad yr un iaith a nhw ond dwi ddim yn teimlo yn un gyda nhw. Dwi erioed wedi mynychu Tafwyl ag melli mae'r feirniadaeth yn annheg ond i mi mae'r syniad o Tafwyl yn wrthynt hwy i mi. Dathlu'r Gymraeg yn y Brifddinas o fewn muriau'r Castell. Y Castell sydd ddim yn rhyw groesawgar mewn unrhyw gyfnod arall y flwyddyn ond mae 'na rywbeth braidd yn anghynhwysol am wyliau fel hyn. Wrth gwrs mae rhaid clodfori arbrawf yr Eisteddfod Genedlaethol i gael gwared ar y weiren bigog ag y gleddyfaeth ond yr un fath o bobol fydd yn mynychu. Ar y cyfan pobol gyfforddus gwyn ddosbarth canol. Nawr does 'na ddim lot maen nhw yn gallu gwneud am y ffeithiau hyn ond ei golygfa ar y byd a'r betws rwyf yn cwestiynu yn fy nhrydariad. Yn fy marn i os ydy'r Cymry Cymraeg yn mynd i fod yr un fath o bobol sydd yn byw yn y Siroedd Cartrefol (Home Counties) rydym wedi colli'r frwydr. Mae rhaid i'r meddylfryd newydd. Mae rhaid i'r meddylfryd cyfalafol newid os yw'r Iaith Gymraeg am oroesi.Y Chwyldro Diwydiannol laddodd yr iaith yng nghymoedd y de ag nawr ceiniogau'r diwydiant ymwelwyr sydd yn effeithio ar enaid ein pobol gan ganiatáu newid enwau hynafol ar eiddo. Y teimlad o orthrwm dwi yn mynd i ffwrdd gyda fi oddiwrth unrhyw ŵyl yn yr iaith Gymraeg ydy'r ias arwynebol yma ond efallai fel gwedais i yn gynharach mae hwn mwy i wneud gyda fy 'Cymhleth Israddoldeb' nag gydag unrhyw wirionedd yn y sefyllfa dwi newydd dystio iddo.