Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Friday 15 December 2017

Dim Ots






Dwi di ddod i'r casgliad does gyda fi ddim ots pwy sydd yn darllen hwn bellach. Y ffaith ei fod o mewn rhyw fath o Gymraeg yn ddigon o beth i mi. Fyddai byth yn ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol oherwydd mi rwyf yn gwrthwynebu gystadlu. Mi ddaeth y sylweddoliad am hyn pan roeddwn yn cymryd rhan mewn ras athletaidd yn yr ysgol. Fi ag un hogyn arall yn rhedeg rownd cylch mawr ag yr athro yn sefyll yna gyda'i stop wats a giang o'r ysgol yn sbïo gyda ffug diddordeb. Hanner ffordd rownd cytunwyd i groesi'r llinell yr union un pryd. Erbyn y llinell gorffen dwi feddwl roedd y ddau ohonom yn cerdded. Doedd y dorf ddim yn gallu credu'r peth, yn sefyll yna yn gegrwth. Well os gawsom ni row gan yr athro, Jelly Belly Johnson oedd ei enw, y dyn mwyaf anaddas ei olwg i fod yn athro PE Roedd o'n un o rain os oedd yn gwyntio unrhyw fath o amharchusrwydd gan y disgyblion mi aeth o yn wyllt. Roeddwn ni yn teimlo reit falch fod ni wedi gwneud safiad yn erbyn y Duw cystadlu sydd yng nghlwm i'r natur ddynol. Ac ers y dydd hwnna does gen i ddim archwaeth o gwpl at gystadlu. Pwy ffwc sydd eisiau ddod yn gyntaf, neu yn ail, neu yn olaf? Well beidio cymryd rhan o gwbl yw fy marn i. Wrth gwrs mewn byd cyfalafol, cystadleuol mi gewch chi eich gadael ar ôl gyda'r agwedd yna, a dyna'n union sydd wedi digwydd. Y ffaith wnaeth y ras yma ddigwydd mewn yr un fath o ysgol a mynychwyd Osborne, Johnson a Cameron yn rhoi digon i gnoi cil arno. Doedd o ddim mor grand ag enwog cofiwch chi ond yr un oedd ei ethos. Y ffaith hefyd fod yr ysgol yma yng Nghymru a doedd yna ddim gwers o Gymraeg i gael a dim gwers hanes Cymru chwaith. Efallai dyna pam ar ôl cyrraedd canol oed amharchus mae o gymaint o gic i allu sgrifennu fy marn yn fy mam iaith. Os ydy sgrifennu'r blog yma wedi dysgu fi unrhyw beth amdanaf i fy hun, a dyna oedd y bwriad, mae o di dysgu fy mod i mor flin â brwd dros yr un pethau roeddwn i yn fy arddegau. Doeddwn ni ddim yn perthyn yn yr hen le hyll yna a dwi wedi ffeindio fo'n andros o anodd i berthyn yn unman yng Nghymru ers hynny. Fel bod y cyfnod yma wedi gadael ei ôl.   

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman