Language was the absolute key to all of this

Total Pageviews

Sunday, 17 December 2017

Cosb a Chasineb

Cosb a Chasineb





Mae'r elfen hunan cofiannol i'r blog yma wedi dod yn fwy amlwg yn ddiweddar. Fel unigolyn sydd gyda digon o amser ar ei ddwylo i feddwl am y pethau yma mi ddaeth yn glir i mi yn ddiweddar fod fy hanes gwaith neu yrfaol wedi cynnwys elfen o gosb oherwydd hunan gasineb. Mi wnâi esbonio. Gweithio am ddwy flynedd i Fudiad Ffermwyr Ifanc Cymru, byw yng Nghaerdydd, y pencadlys ar faes y sioe Llanelwedd ac yn teithio o gwmpas Cymru, tua 125,000 o filltiroedd mewn dwy flynedd a hanner. Bwyta brechdanau a sothach allan o garej ochor ffordd. Rhoi'r swydd yna i fyny yn 1998 ac wedyn symud 'bag a baggage' i Trallwng neu Meifod i fod yn fanwl gywir i fod yn swyddog celfyddydau i Voluntary Arts Wales. Parhau am bedwar mis tan Ebrill 1999, cyn dechrau blino a pheswch a chael diagnosis o Non Hodgkin's Lymphoma sef cancr y gwaed. Symud nôl 'bag a baggage' i Gaerdydd i gael triniaeth yn ysbyty Llandough ac wedyn ar ôl blwyddyn penderfynu symud 'bag a baggage' i Lundain i weithio mewn ysgol uwchradd yn Nhe Dwyrain Llundain. Dywedodd y Dirprwy Prifathro ar fy niwrnod cyntaf "This is not a place for the faint hearted" ac mi roedd o yn iawn hefyd. Ar ôl pedair blynedd yn y carchar addysg yma i blant mi ffeindiais i fy hunan yn y carchar yn Amsterdam i gael fy nghosbi am hunan gasineb. Roedd dewis y gwahanol fath o waith yma yn edrych dipyn bach fel siawns ond ar ôl dadansoddi'r peth teimlo na dewis gwaith dim jest i herio fi ond i fy nghosbi fi. Pam fasa rhywun yn dewis gyrfa i ladd ei hunan? Oherwydd doedd ganddo fo ddim ffydd o gwbl yn ei allu? Oherwydd ei fod o yn ystyried ei hunan yn fethiant ac yn gwneud gwaith doedd dim yn unig ddim o'i ddewis ond am ei frifo fo ymhellach. Dwi'n sgrifennu hyn fel un sydd ddim wedi gweithio ers 12 mlynedd bellach. Dwi di fod yn byw ar bwrs y wlad ag ar eich trethi chi. Wedi troi hanner cant dwi wrthi yn ceisio penderfynu beth allai gwneud er mwyn ennill tamaid ac mae'r dewisiadau ddim yn rhai fasa’n gwneud rhestr fawr o bell ffordd. Unwaith fod y diagnosis 'Iechyd Meddwl' wedi dod ger eich bron a ydych yn anwybyddu a diystyru neu ydych chi yn ei defnyddio fel rhyw fath o warchodfa. Efallai fasa fo'n hawdd i mi ddeud celwydd a chogio fy mod yn 'normal'. I mi, mae pobol 'normal' yn cael ei ddefnyddio fel bag dyrnio gan gymdeithas. Ag i bob un ohonoch chi, ddim ond hyn a hyn o ddyrni allech chi ddioddef. Mae'r rhai clyfar neu gyfrwys yn gallu gwneud lle bach cysurus iddyn nhw ei hunan ond mae hun wastad yn dod gyda rhyw gost lawr y lon. Y gwahaniaeth rhwng pobol 'normal' a rheina sydd yn dioddef o hunan gasineb a diffyg hunan barch ydy fod y diwethaf yn defnyddio ei hunan fel bag dyrnio. Maen nhw yn tri'n ei hunain mor wael er mwyn gwarchod ei hunan rhag unrhywbeth all y bywyd allanol taflu atynt. Mae Cymdeithas yn cosbi'r rheina sydd yn casáu eraill ond does 'na ddim cosb waeth na chasáu eich hunan. 

No comments:

Post a Comment

Neither in work nor looking for employment

"Hi I am Daf Williams and I am economically inactive." I feel that I am in some kind of group therapy where I have to admit my add...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman