Gair diddorol di dyletswydd. Roedd rhaid i mi gecio cyn sgrifennu beth oedd y gwahaniaeth rhwng cyfrifoldeb a dyletswydd. Mewn cyfrifoldeb mae yna elfen o ddewis. Does 'na ddim dewis yn ddyletswydd. Wrth gwrs mi allwch anwybyddu eich dyletswyddau ond wedyn mae'r hen gydwybod yna yn dechrau wafio yn gornel eich isymwybod. Felli o ble mae'r dyletswyddau yma yn dod? Yn bennaf o'r teulu. Gawsoch chi ddim dewis yn eich genedigaeth a dim ots pa mor anodd ydy bywyd mae yna elfen o ddyletswydd tuag at y teulu. Wedyn mae yna ddyletswydd at eich gwlad ag eich iaith. Os rydych wedi cael y rhodd o'r iaith Gymraeg, wedyn mae yn ddyletswydd arnoch chi i ddefnyddio fe? Efallai does gynnon ni ddim dyletswydd i ddim oni bai am Dduw os gaffoch chi eich magu yn y ffydd Gristnogol. Felli dim dewis di Duw? Dyle credu mewn Duw ddim bod yn ddyletswydd. Rhywbeth arall fydol, cysurus, rhywbeth yn debyg i Siôn Corn di Duw? Neu ydy Duw yn enw arall ar ein henaid, ein ffynnon bywyd sydd yn rhoi cysur i ni pan mae'r ddynol rhyw wedi siomi ni tro ar ôl tro. Nhw sydd wedi ein siomi ni neu ein disgwyliadau? Felli ar ysgwydd dyletswyddau neu ddisgwyliadau mae'r bai am ein anhapusrwydd? Beth ddych chi'n meddwl eich bod ddim yn anhapus? Beth sydd yn bod arnoch chi?
Mae bod yn anhapus yn beth poblogaidd iawn dyddiau yma! Yr oedolion yn anhapus oherwydd ei chyfrifoldebau a'r plant yn anhapus oherwydd ei dyletswyddau? Mae 'na elfen o ansicrwydd a risg ym mhob dydd bellach, beth fydd y newyddion pedwar awr ar hugain yn dod i ni ar y fwydlen heddiw. Pa gyflafan fydd yn treiddio lawr i'r isymwybod cyn nos ac yn gofyn y cwestiwn "A oes gyda ni dyletswydd a chyfrifoldeb at y byd neu waith y gwleidyddion ydy hwnna?" Efallai fydd yr ymateb ddim yr un fath i bob un. Efallai fydd yr ymateb yn dibynnu ar faint eich cydwybod. Ond wedyn fydd rhaid penderfynu ydw i jest am siarad am bethau ar y cyfryngau cymdeithasol neu ydw i am weithredu dros les y blaned? Dim ond y ni all penderfynu na dyletswydd ta cyfrifoldeb ydy hwnna.
No comments:
Post a Comment