Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Tuesday 6 June 2017

Torïaid a Therfysgwyr


                                        Twll Din I'r Toris from David Williams on Vimeo.

Well lats mae ein bywydau wedi cael ei domineiddio yn ddiweddar gan Doriaid a Therfysgwyr. Ond fydd o gyd drosodd dydd Iau i un ohonyn nhw obeithio. Fydd y terfysgwyr gyda ni am byth tan i ni ddysgu sut i fod yn ddiymhongar, ni yn y Gorllewin gwyn. I ni yn Gymru wedi bod yn ddiymhongar am ganrifoedd ond dyw'r sefydliad Prydeinig ddim wedi bygwth ni gyda dienyddio, well ddim eto beth bynnag. Mae'r Torïaid wedi bod yn cyhwfan drosom ni fel cwmwl du dros Rhostrehwfa ers 1979. Roedd Tony Blair yn Llafur yn enw yn unig. Tori oedd o! Siŵr eich bod yn ddigon hen i weld beth sydd wedi arwain i hwn i gyd? Hunan-dyb, balchder, meddylfryd yr ymerodraeth ac yn anffodus rydym ni yn Gymru fach wedi cael ein sugno mewn i'r holl bell. Mae 'na Feseia ar y gorwel sef JC, ie Jeremy Corbyn ei hun sydd wedi cael 30 mlynedd o brofiad o astudio'r creaduriaid ymffrostgar yma. Os gawn ni'r Torïaid allan dim ond y terfysgwyr fydd ar ôl wedyn i ddelio gyda nhw a faswn ni yn tybio na ymateb mwy cymodol gan lywodraeth fwy teg i bawb fydd yn dwyn ffrwyth yn y pen draw ond pwy a ŵyr "Dydym ddim yn gallu trafod gyda therfysgwyr" ydy mantra y sefydliad erioed ond hwnna oddiwrth ochor oedd wastad yn meddwl na nhw oedd yn iawn. Pam fod gyda chi dwy ochor sydd yn edrych i Dduw am arweinyddiaeth rydym yn sicr i fod mewn cawdel go iawn, cawdel sydd yn rhoi capelwyr bach mewn penbleth. Beth yn union rydym yn addoli a chanu amdano ar y Sul? Newydd weld gair yn y Geiriadur Mawr yn fan hyn 'Cecsyth' (a) adjective sef Arrogant. Tybed a ydy hwn yn dod o Geg Syth sef Straight Mouth neu Straight Talker? Rhyfedd sut rydym yn dehongli hwnna fel arrogance yn de. Efallai gair o'r capel ydy o am rywun sydd yn deud o fel mae yn ei weld o. Dim digon o rheina o gwmpas erbyn hyn ac oes maen nhw o gwmpas ond dydyn nhw ddim mewn safle pwerus. Cadw pawb yn hapus ydy'r nod a neb yn hapus yn y pen draw. Ble bynnag wnewch chi roi eich croes dydd Iau dychmygwch o fel croes yr Iesu. Mi wnaeth rhywun aberth drosom ni i gael yr hawl i wneud hyn. The bullet or the ballot box. Chi fydd rhaid penderfynu.  

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman