Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Sunday 6 November 2016

Gathartig

Mae'r profiad o gael sgwennu am bethau mor bersonol a ddwys yn fy 'Wenglish' bondigrybwyll wedi bod yn hynod gathartig. Am ddau reswm dwi'n meddwl 1) oherwydd dwi eisiau fy nghyd Gymru darllen a deall ac wedyn penderfynu dros ei hunan os i feirniadu neu gydymdeimlo 2) fod rwtsh fy isymwybod yn deillio o addysg fonedd gwpl Saesneg. Mi wnâi ymhelaethu, teimlaf fy mod wedi cael fy di-wreiddio (up-rooted) mewn sawl ffordd ac mae sgrifennu fel hyn yn ryw fath o hunan therapi. Trwy edrych yn nol dwi yn gweld fy mod wedi ymbellhau o gymdeithas gyffredin a hynny oherwydd ofn. Dwi'n dipyn o 'Coward of the County'. Mae ymwneud a phobol yn y gorffennol yn gyffredinol wedi gadael ei ôl. Oherwydd dwi ddim yn berson cystadleuol mae hwn wedi arwain at ddiffyg menter a threial un rhywbeth newydd. A gydag oedran mae'r chwant gwneud rhywbeth all fynd a fi mas o'r 'comfort zone' yn lleihau. Mi ddylwn ni fod fel Boris Johnson neu David Cameron neu un o'r Toffs yma sydd wedi bod trwy'r un system ond mae o wedi troi fi yn erbyn y system yna a'r fath bobol oherwydd wnes i fethu'r system a wnaeth y system methi fi. Mae o'n seicoleg weddol syml. Dwi hefyd yn erbyn sefydliadau ac awdurdod. Mae fel bod ymennydd plentyn da fi. Mae pobol yn tueddi cilio rhag pethau asgell chwith fel maent yn heneiddio ond mae fy mhrofiad i i'r gwrthwyneb. 
Y peth mwyaf dwi'n difaru am y fath addysg oedd diffyg presenoldeb merched oherwydd dwi ddim yn gyffyrddus iawn yn ei chwmni oherwydd dwi ddim wedi dysgu'r ffordd i ymddwyn yn briodol. Y pethau iawn i ddweud. Os i weld nhw fel pobol a ffrindiau neu i ymdrin â nhw fel bodau gwahanol.
Mae rhaid i fi gyfadde' i rywbeth dwi'n siŵr wnaeth cythruddo rhai ond mae gen i 'superiority complex'. Dwi'n ceisio peidio ond dwi yn gweld yn hun yn wahanol i bobol eraill ac os ddim yn well yn bendant yn fwy trugarog (humane) 
Roedd gadael awyrgylch ysgol fonedd fel methiant yn dipyn o sioc, mynd i weithio yn Wasg Gee, Dinbych am £25.00 yr wythnos ar gynllun Y.O.P (Youth Opportunities Programme)  Margaret Thatcher a dyma fi tri deg mlynedd lawr y lein a dim ond ar dair gwaith y maent yr wythnos rŵan o dan Theresa May, ond tro ma’ ar Carers Allowance, yr unig fudd-dal allai fynd arno heb ypsetio fy iechyd meddwl. 
Dwi yn meddwl fod script ein bywydau fel oedolion yn cael ei setio pan rydym yn ein harddegau. Cyfnod andros o anodd i bawb. Rhieni a phlant fel ei gilydd. Mae'r awyrgylch 'llwyddo at unrhyw gost yma' wedi costi fywydau pobol. Y nod afrealistig yna a wnaeth cyn lleied o bobol cyrraedd. Yn lle'r curriculum yn canolbwyntio ar wybodaeth, beth am ganolbwyntio ar fod yn bobol well. Sut i fod yn 'Mindful' Sut i drin a phobol eraill yn y ffordd briodol yn lle bwlio a chael ei bwlio. Ar ddydd Sul fel hun ni allaf beidio meddwl am y bobol ifanc sydd yn ofni i fer ei esgyrn mynd nôl i ysgol yfory oherwydd maent yn mynd i gael ei bwlio. Dyma'r ffaith dwi'n ceisio dygymod a fo i'r dydd hwn "Sut all un person cael cymaint o ddylanwad ar berson arall?" "Sut a pam rydym ni yn rhoi ein pŵer i ffwrdd i bobol sydd ddim yn heiddi cael o?" Mae sawl un yn deud 'Natur Ddynol' 'Natur Ddynol'. Yn lle derbyn hwnna fel ffaith beth am geisio newid natur ddynol yn ein cyfarfodydd bob dydd yn lle derbyn yr un hen rwtsh gan bobol flin a chymdeithas fygythiol?    

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman