Mae llwyddiant ein tîm pêl droed cenedlaethol yn gyd fynd gyda Phrydeinwyr yn pleidleisio i adael Ewrop. Ewrop roedd y glud clir roedd yn cadw Cymru dda'i ben uwchben y dŵr, ond mewn un etholiad i ni nol i oes y dinosoriaid. Yn wir mae'r Deyrnas ranedig yn destun sport i weddill Ewrop. Felli beth sydd yn mynd i ddigwydd i ni ac ein hiaith? "Don't be afraid to dream" wedodd Chris Coleman. Wedodd Dr Martin Luther King ei debyg yn y chwedegau ac yn America maen nhw yn agosach at y fflam? Fasa trigolion Flint, Michigan yn anghytuno. Ond beth am Fflint, Cymru, newydd gael eisteddfod yr Urdd ac mae Eisteddfod Genedlaethol yn mynd i fan arall debyg, yn agos i'r ffin, heb y Gymraeg, Y Fenni.
Dwi ddim yn meddwl fod e'n ymarferol i feddwl am Un Gymru bellach. Mae e mor rhanedig â Lloegr felli sut mae Plaid Cymru yn mynd i ennill annibyniaeth i Gymru? Dim Plaid wleidyddol sydd yn mynd i ennill annibyniaeth i Gymru. Yn galonnau a meddyliau cefnogwyr Tîm Pêl Droed Cymru i ni yn barod yn rhydd. Yn rhydd o fwgan 1958. Fasa cynic Rhufeinig yn atgoffa ni o 'Bread & Circus' rhywbeth i gadw dynoliaeth rhag meddwl am y ffordd maent yn cael ei rheoli. Diolch byth mae Cymru (y tîm pêl droed) dal yn Ewrop oherwydd dwi feddwl fasa na digwyddiadau o 'civil unrest' wedi digwydd erbyn hyn ar strydoedd Brydain ond mae'r setiau teledu yna yn llosgi hir i'r nos. Beth bynnag ydy 'impotence' yn Gymraeg, dyna beth ydym ni yng Nghymru. Tasa na Doctor i wledydd, fasa ni yna bob bore dydd llun yn surgery y Cenhedloedd Unedig yn cwyno fod ni ddim yn gallu cadw fe lan, neu gallwn ni ddim para yn hir iawn a fasa’r Doctor yn deud "Well you're doing all right in the Football"
Felli dyma 'cri de coeur' i genedlaetholwyr cadair esmwyth. Beth bynnag ydy canlyniad nos fercher yn erbyn Portiwgal peidiwch anghofio geiriau Chris Coleman pan fyddwch yn meddwl am Annibyniaeth i Gymru.
No comments:
Post a Comment