Mae rhaid i mi gyfaddef fy mod yn Wenglish Bastard! Saesneg unrhyw gyfle ga’! Bur anaml yn y Gymraeg a pan dwi yn, dwi'n ceisio cael checio'r sillafu a phallu jest in case mae'r heddlu iaith yn sbïo. Annhebyg ond you never know! Ges i syniad hollol wyrion bore mha! Mi faswn ni yn Cerdded Clawdd Offa yn Gymraeg yr holl ffordd i Gelli Gandryll, wedyn fasa rhaid i mi newid i Saesneg am y prynhawn ac wedyn nol i Gymraeg tan Casgwent but both you and I know it ain't gonna happen! "Bore da a sut mae?" i bob cerddwr ac wedyn "all right" ac swrth ac wedyn ddim byd ar ôl i mi flino gymaint. Mi fyddai yn cerdded trwy ardaloedd mwyaf Saesneg Cymru a hynny wrth reswm, y ffin rhwng y ddwy wlad ydy Clawdd Offa ac mi fydd yn ddiddorol i weld os oes rhywle ble mae'r Gymraeg yn drech na'r Saesneg. Nawr beth i ni yn mynd i wneud am y cwestiwn iaith yma? Mae yn creu tristwch, iselder a dioddefaint i'r siaradwyr i weld o'n cilio ac mi ydach chi'n teimlo fel bradwr i'r achos os ydych yn defnyddio'r Saesneg. Arfer diog ydy'r Saesneg a dwi yn un ddiog! Dyna hanner rheswm i mi geisio'r cerdded yma!
Dod i ffwrdd o'r cyfrifiadur ar drydari a cheisio gwneud ffrindiau gyda natur. Tybed ble fydd y 'blister cyntaf yn digwydd? Cymru neu Lloegr.
No comments:
Post a Comment