Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Sunday 4 October 2015

Yr Eliffant yn y Stafell












Well dyma fi yn sgrifennu yn Gymraeg eto ar ôl i mi gael pwl o gydwybod. Dwi ddim yn gwneud digon dros yr iaith mae hwnna yn amlwg. Oni bai am siarad gyda theulu a ffrindiau yn Gymraeg beth all dyn neu ddynes ei wneud? Beth bynnag fydd yr awgrymiadau, dwi'n siŵr fydda nhw yn cynnwys gwneud pethau cymdeithasol. Ildiwch yn y fan ar lle. Gwneud mwy ar y cyfryngau cymdeithasol siŵr o fod gan fy mod yn gwario rhan fwyaf o fy mywyd arnynt ond cyn lleied o ffrindiau sydd yn medru'r iaith efallai oherwydd fy mod yn gyndyn i wneud ffrindiau a pam son am sothach yn Gymraeg. Trafod y pethau pwysig ydy'r angen ond crefydd neu rygbi gan amlaf sydd ar y fwydlen a beth am yr eliffant yn yr ystafell..na dim yr eliffant yna..yr eliffant fancw, honco mhonco. Yr eliffant ogleddol ag yr eliffant deheuol a ni wnâi'r ddau byth cwrdd. Tybed beth ydy canran yr hwntw sydd yn byw yn y Gogledd? Dwi'n siwr fod 'na llawer mwy o Ogleddwyr yn y De yma. Pam? Oherwydd dyma ble mae'r Brifddinas, dyma ble mae'r iaith ar waith yn y cyfryngau ar Gynulliad, dyma ble mae Clwb Ifor bach a Rygbi a Chrefydd. Rygbi a chrefydd ydy'r un peth yng Nghymru a dwi wedi bod mor euog â neb yn yr hen ddyddiau ond dwi'n hynod o falch na yn yr hen ddyddiau mae'r euogrwydd. Dwi'n edrych ymlaen at golli'r gemau rŵan. Dwi'n cymryd rhyw foddhad rhyfedd o feirniadu yn erbyn y tair pluen, i syrffed weithiau. Mi welais bobol yn gwneud ei ffordd i gymryd rhan yn hanner marathon Caerdydd bore mha. Bob un yn edrych yr un fath, yr un siâp, yn wyn, yn ddi gymeriad. Bobol ar yr wyneb na faswn ni ddim yn gwahodd i bryd o fwyd oherwydd dwi ddim yn rhedwr. Dwi ddim yn rhannu'r un siâp o gorff. Un bach tew ydw i heb wddw, jest y teip i chwarae 'Bachwr' a dyna fues i ers U15s bondigrybwyll yn y Gogledd ac wedyn dychwelyd i'r De parhau gyda'r gwastraff amser. Bachwr i 'Hogia Hen Ysgol Cathays' yn chwarae i fyny yn ymyl Ysbyty'r Heath. Beth oedd da'r ddau dîm yn gyffredin? Tîm yr Ysgol a Thîm Cathays? Roeddwn yn colli yn aml. Colli bron bob dydd Sadwrn ac mae meddylfryd y 'loser' yn dechrau treillio mewn i agweddau eraill o fywyd. Ond cymryd rhan fasa rhedwyr bore mha yn deud ydy'r peth pwysicaf a chwarae teg iddynt am y farn yna ond roeddwn yn edrych arnynt fel defaid, dwi'n edrych ar gefnogwyr Rygbi Cymru fel defaid, yn ei chrysau coch ddi gymeriad. Mi wnes y sylwad yn ddiweddar fod yna ddim byd yn Ganol y Ddinas o gofgolofn Aneurin Bevan i lawr y Hayes i'r llyfrgell fasa yn gwneud i chi feddwl eich bod yng Nghymru. All hwn fod ym Mryste neu Caerloyw am y Cymreictod sydd yn hanu ohono. Yr unig beth gwnaeth arwyddo fy mod mewn gwlad Geltaidd roedd 'byscwraig' ifanc roedd yn chwarae'r delyn.
O'r ochrau, ar y lluman pellaf mi fyddaf i yn gwylio bywyd erbyn hyn. Beth bynnag ydy 'Voyeur' yn Gymraeg, well dwi yn un o rheini. Voyeur mewn siâp eliffant. 

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman