Well y Duw Duw, doeddwn ddim yn gwybod roedd 'na fath beth a dwi wedi bod yn 'Manic Depressive' yn swyddogol 'like' am 9 mlynedd ond yn answyddogol am 36 o flynyddoedd. Troi yn ddyn is what did it see! '13', oedran bregus iawn.. Dyma fi yn siarad ar rhaglen radio am y cyflwr.
Felli, beth ydw i yn mynd i weud sydd ddim wedi cael i weud am y cyflwr yn barod? Dim lot really! Mae un neu ddau dwi'n nabod yn teimlo fy mod yn defnyddio fel esgus i beidio cymryd rhan yn fywyd go iawn, go iawn. Yn fy nhyb i, bywyd go iawn sydd yn anfon pobol yn benwan. 'Reality' fel plentyn doeddwn ddim yn meddwl fod 'reality' yn mynd i fod fel hyn. Dwi wedi bod yn ddyn rhydd am y naw mlynedd diwethaf, wedi cael yr hawl i ffoi rhag cyfrifoldebau confensiynol bywyd. Wrth gwrs mae hwn yn dod gydag amodau, llau o bres, llau o gyfleoedd i brynu profiadau sef y sinema a theatr ond mae'r rhyddid yma dwi'n teimlo wedi cynnig cyfle i asesu pethau pwysig bywyd fel teulu a ffrindiau. Fuodd gwaith gwastad yn niwsans i mi, yn debyg i gysgu a bwyta a mynd i'r tŷ bach. Rhywbeth roedd rhaid i chi wneud. Un peth hoffwn i ategu ar 'Diwrnod rhyngwladol anhwylder dau begwn' ydy'r faith fy mod yn teimlo mae bod yn rhan o iaith a diwylliant lleiafrifol yn dod gyda sgil effeithiau a all dylanwadu ar eich iechyd meddwl. Mae dyn yn teimlo'n gyfrifol dros dranc yr iaith ond dydy o ddim yn gwybod sut i fynd o gwmpas gwneud rhywbeth amdano. Mae yna euogrwydd ag agwedd amddiffynnol yn perthyn i'r peth. Cywilydd am beidio bod yn berffaith mewn unrhyw iaith. Cywilydd am ganiatáu'r bywyd mawr, cyfalafol, cystadleuol, gwleidyddol boddi ein hetifeddiaeth. Mae hwn yn siŵr o fod yn elfen o Iechyd Meddwl y Cymry Cymraeg!
No comments:
Post a Comment