Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Monday 7 July 2014

The Incredible Shrinking Man




Bob tro dwi'n dychwelyd i Gaerdydd ar ôl treulio amser yn gwahanol rannau o Gymru dwi'n teimlo fel 'The Incredible Shrinking Man'. Mae e'n dechrau'r eiliad dwi di ddod i ffwrdd o drofa'r M4, Cardiff West a dwi'n mynd lawr yr A4232, mae teimlad o anesmwytho yn dod drosta’i. Mae rhaid i mi fod yn was bach y Brifddinas eto, dyn tawel sydd yn troi ei gefn ar y gymdeithas ddinesig byddent nhw’n Gymru nei beidio. Mae'r ymarferiad yr un peth bob tro, parcio'r car mor agos i’n tŷ sydd yn bosib ac wedyn adael o yna tan y tro nesaf mae rhaid i mi ffoi i'r Gorllewin neu'r Gogledd oherwydd yn eiriau Kenny Rogers fi ydy 'The Coward of the County' neu 'Incredible Shrinking Man'. Dwi'n nerfus iawn dreifio o gwmpas y ddinas ac fel person mewn oedran dwi'n cynllunio bob taith, faint o gloch fydd cyn lleied o draffig o bobol ar hyd y lle i mi gael y siawns gorau posib o daith di ffwdan. Mae rhywbeth mawr yn crynhoi yn fy nghorff os fydd rhaid i mi stopio mewn jam traffic neu oherwydd bod 'na gymaint ar hewl. Felli yn y ddinas fawr hyll yma ble rwyf wedi bod yng ngwystlon am bum mlynedd ar hugain dwi'n cerdded i bob man neu dwi'n seiclo. Anaml fyddai yn dal y bws, gormod o bobol. Dwi'n sylweddoli fy mod i yn hoffi sefyllfaoedd a phobol mi allai rheoli! Mae hwnna yn swnio yn rhyfedd ond os dwi'n teimlo fod person yn mynd i grynhoi mi neu fy mygwth yn emosiynol, dwi'n osgoi nhw, dyna pam fod gweithio mewn meysydd confensiynol yn gymaint o her. Mi fydd na digwyddiadau a phobol ni allet ti reoli.
Dwi'n ceisio cadw proffil isel yn y stryd, peidio mynd allan os fydd na lot o bobol neu gymdogion yn mynd a dod. Dwi'n osgoi'r amseroedd brysura'r dydd. Ofn, rhwystredigaeth, arferiad, y zone 'cyfforddus'. Mae rhaid newid lleoliad ond i ble a pham! Mi wnes i symid i Lundain yn 2000 i ddechrau bywyd newydd, well dyna oedd y gobaith ond yr un hen fywyd oedd o, yr un hen feddylfryd ond mewn lleoliad wahanol. Maent yn deud galla’u chi ddim dysgu triciau newydd i hen gi ond yn fy achos i ddwi'n gobeithio nad ydy hwnna yn wir.

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman