Meddyliais i’m hun wrth deithio o Rhayader i Lanelwedd yn ddiweddar, yr unig ffordd i gael cynnydd sylweddol yny nifer o siaradwyr Cymraeg os tase rhyw UFO yn glanio gyda bataliwn o aliens bach, gyda Chymraeg perffaith glan gloyw. Dwi ddim yn meddwl fydd nhw yn cael llawer o groeso, dim ei fod nhw yn aliens ond oherwydd bod nhw yn siarad Cymraeg ac mae 81% o boblogaeth Cymru ddim yn medru’r iaith. Efallai fod ni fel ‘Cymry Cymraeg’ honedig, the Welshest of Welsh ddim yn sylweddoli pa mor anodd ydi o i ddysgu. Mae’r bobol fwyaf brwdfrydig dros yr iaith yw'r rheina sydd wedi dysgu fel ail iaith. Maen nhw yn gallu yn rhoi pobl iaith gyntaf to ‘shame’ fel petai. Mae Cynnydd ddim yn mynd i ddigwydd dros nos ond weithiau dwi yn meddwl dan ni yn mynd yn obsessed gyda’r mewnlifiad a rhoi bai ar Loegr a’i thrigolion. Dydym ni ddim yn berthnasol i bobol Lloegr ond mi rydan ni yn berthnasol i bobol un iaith Saesneg sydd yn byw o fewn muriau Clawdd Offa? Dydi gorfodi bobol i wneud rhywbeth byth yn mynd i weithio ond mae rhaid meddwl am friwsion mwy tantalising na’r Eisteddfod a S4C i ddenu dysgwyr. Fasa ail poblogeiddio rhywle fel Sir Maesyfed gyda Chymry Cymraeg ei iaith yn un syniad. Creu rhywfaith o gymuned gynaliadwy a symud mas o fanna ond nid i’r dinasoedd mawr ond ail greu cymunedau yn y wlad. Ydi pobol y pres yn mynd i wneud gwahaniaeth i’r Gymraeg neu ydi ewyllys da'r ‘werin datws’ y ‘folk potatoes’ at ei iaith a’i etifeddiaeth fydd y gwahaniaeth rhwng cynyddu neu gynilo?
No comments:
Post a Comment