Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Thursday 22 March 2018

Anweithredol yn Economiadd







Doeddwn ni ddim yn siŵr beth oedd y label diwethaf i mi gael ond ar ôl darllen darn yn 'Fwrlwm y Bae' yn Gylchgrawn Golwg wsnos hon, sylweddoli na 'Anweithredol yn Economaidd' ydw i ag dwi wedi bod fel yna am dair blynedd ar ddeg bellach. 13 years, anlwcus i rai. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd i geisio lleihau'r nifer o bobol sy'n ddi-waith yng Nghymru a chyrraedd yr un lefel a chyfartaledd y Deyrnas Unedig. Wastad chwarae catch up da ni wedi bod yn gwneud yn yr hen Gwalia, nawr rydym eisiau dal fyny gyda'r nifer o ddi-waith yn weddill GB PLC. Well, dyna uchelgais i chi, ras i'r gwaelod os fuodd un erioed. Mae o'n edrych fod Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Eluned Morgan gyda rhyw fath o hudlath! 
"Os oes cyfrifoldebau gofal gyda chi, allwn ni rhoi rhyw fath o strwythur mewn lle i'w helpu gyda nhw." Mae hi hyd yn oed yn mynd i ddatrys problemau iechyd meddwl. Nawr mae hwn yn dipyn o hudlath neu Magic Wand i'r Wenglish amongst you. Dwi ar bigau'r drain fan hyn nawr oherwydd dwi'n disgwyl gweld pobol mewn siwtiau yn dod i'r drws a chynnig gwasanaeth gofal i'm annwyliaid ag iddynt sortio allan fy mhroblemau iechyd meddwl sydd wedi bod gyda fi ers yn las lanc o 13 ag dwi'n 52 eleni, felli edrychwn ymlaen yn enfawr i weld beth sydd gyda nhw i gynnig yn y cynllun newydd yma. Ond i chi yn gwybod be, dwi'n eithaf hoffi'r label yma. 
Does dim mawr allai gwneud am y label 'Anhwylder Dau Begwn' oni bai am beidio sôn amdano fo ond mae yna rywbeth reit nobl a dewr am y teitl "Anweithredol yn Economaidd". Mewn byd cyfalafol, cystadleuol, neo-rhyddfrydol dwi falch o ynganu fy mod yn anweithredol yn economaidd ac efallai, efallai fydd rhaid iddynt dynnu fi nol i ryw fath o waith yn cicio a sgrechian. Gwyliwch y gofod yma.  

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman