Chwarae Soldiwrs
Blynyddoedd maeth yn ôl
mi faswn yn chwarae soldiwrs
yn chwarel yn Llanarmon yn Iâl
Gynau plastig, du a gwyrdd
yn gwneud sŵn fel rhai go iawn
Syrthio yn farw
i godi eto fel rhyw fath o atgyfodiad plentynnaidd
Plant yn cael ail gyfle ble mae ei thadau dros y canrifoedd di marw
ar ryw gae estron sydd Lloegr am byth.
Mi allith unrhyw un cyfiawnhau rhyfel
ond mae'n cymryd y dewr i wrthod y galwad i fyny.
Dim ond yn hynach mi ddes i ddeall fy mod fy nhad i yn un o rheina
'Ymwrthodwr Cydwybodol'
Geiriau sydd di gael ei dwyn heddiw gan rheina wrthododd y brechlyn a'r mwgwd
Ond ar y pryd, safiad oedd yn fwy moesol.
Mi wnaeth o wisgo'r khaki fel 'non combatant'
adeiladu Nissan Huts i'r Americanwyr, Gwarchodwr yn y 'Prisoner of War' Camps
i'r Almaenwyr oedd yn sobor ac i'r Eidalwyr a oedd yn hwyliog.
Ymwrthod ar sail ei Gristnogaeth dan ddylanwad pregethwyr
roedd wedi gweld hunllefau ar ffosydd Ffrainc yn y rhyfel byd cyntaf.
Dwi meddwl roedd o'n difaru ac efallai fasa fo ddim wedi gwneud yr un dewis eto
ond dwi'n siŵr roedd o'n faich i gael mab oedd yn gofyn rownd y rîl
"Beth wnes di yn y rhyfel Dad?"