Language was the absolute key to all of this

Total Pageviews

Wednesday, 9 February 2022

Yer Mum/Dy Famiaith



https://www.psychologytoday.com/us/blog/the-forgiving-life/201807/what-is-the-difference-between-being-offended-and-harmed


Dwi'n cysidro rhedeg gwersyll esgid neu 'boot camp' i Gymry Cymraeg sydd yn cymryd rhan mewn pentwr 'pile on' ar drydar ar ôl i'r iaith Cymraeg neu hunaniaeth neu ddiwylliant Cymru cael ei thramgwyddo mewn unrhyw ffordd. Y drwgdybir arferol sydd wrthi yn trotio allan rhyw ymosodiad cas oherwydd 'llinell gyntaf amddiffyniad ydy ymosod.' Mae'r croen mor denau ar sgerbwd Cymru erbyn hyn fel bod y cyffyrddiad ysgafnaf yn gadael briw enfawr. Ydy o rywbeth i wneud gyda pharch a diffyg parch tybed? 

Pan yn athro yn ysgol Uwchradd yn Ne Ddwyrain Llundain un o'r ymosodiadau eiriol a ddefnyddiwyd gan y plant ar ei gilydd oedd 'Yer Mum!'. Sarhad ar y person trwy ddefnyddio rhywun annwyl iddynt wrth ddisgrifio mewn ffordd hyll neu anghwrtais. Wnaeth wneud i fi feddwl tybed allwn ni gasglu bob sarhad am y Gymraeg, am genedlaetholdeb Gymraeg ac am ein hunaniaeth a rhoi dan derm ymbarél 'Dy Fam Iaith!'.

Mi wnaeth broses dad sensiteiddio am y Gymraeg digwydd i mi trwy sgyrsiau gyda fy nghymydog yng Nghrangetown. Dyn pendant ei farn am y Gymraeg ac yn ddi-flewin ei dafod yn ei datgan. Yn y dyddiau cynnar mi roedd 'na ambell i gwympo mas/allan ac ar un achlysur mi wnaeth o godi a gadael ar ôl i mi fwrw nôl yn erbyn ei ystrydebau. I ddod i nabod o'n well mi sylweddolais fod ei farn â'i safbwyntiau am yr iaith Gymraeg yn dod o glwyfau emosiynol. Mae o wedi disgrifio i fi sut mae brodorion cynhenid Caerdydd fel y fo yn teimlo am y mewnlifiad o Gymry Cymraeg i'r Brifddinas. "We (Cardiff) didn't vote for the Assembly but they are all working in there on big salaries", "We had a perfectly good English Medium School in Llandaff North until they decided to turn it into a Welsh Medium". Mae ei glwyfau emosiynol yn dod o'r ffaith ei fod o (yn ei farn o) wedi cael addysg sâl yn Nhrelái oherwydd bod yr athrawon i gyd wedi dod i mewn o Orllewin Cymru i ddysgu nhw ag rhain yn mynnu siarad Cymraeg. Roedd rhaid iddo adael addysg yn bedwar ar ddeg oed ag mae o'n ddug am hynny. Efallai'r clwyf fwyaf di'r ffaith iddo fod yn briod a Chymraes o Sir Gaerfyrddin ag mi wnaeth hi ysgaru ag o ac mae o yn ddug ac yn chwerw am hynny. Dwi yn dallt ei gefndir yn well ag dwi yn llai beirniadol ohono fo hyd yn oed ei fod o yn feirniadol am y Gymraeg. Bob tro rydym yn cyfarfod am baned dwi'n disgwyl iddo agor y sgwrs gyda "'Dy Famiaith" a dau fys yn yr awyr. Dwi'n mwy goddefgar efallai oherwydd bod y cymydog yma yn ei wythdegau ac yn anabl. 

Rhai o'r sylwadau ar drydar mewn ymateb i Jeremy Bowen, y brodor o Gaerdydd a wnaeth datgan ei fod yn teimlo dan fygythiad gan wleidyddiaeth yr iaith, yn disgrifio fo fel hen agwedd o'r 70au. Mi roedd 'na agweddau fel yna yng Nghaerdydd ac maen nhw dal yma pa bynnag swigen dych chi'n digwydd byw ynddi. Ydy o'n ddigon i'r Cymry Cymraeg ei iaith y Brifddinas i obeithio bydd yr agwedd yma yn marw allan? Ydy hyn yn debyg i obeithio bydd y mewn llifiad i weddill Cymru cael ei atal?   

I Gymry Cymraeg ei iaith ddysgu fod yn 'gyfiawn' ac yn aeddfed mae rhaid i ni ddechrau ymateb yn llai amddiffynnol ag yn llai ymosodol yn erbyn pobol sydd yn ddigon twp neu gul i leisi farn am yr iaith. Dechrau deall a chwestiynu pam ydynt fel hun yn lle saethu off ein trydaron 'clyfar' ystrydebol ein hunan. Mae o'n gêm all neb ennill. Efallai fod o'n ddigon i ffeilio dan 'Dy Famiaith'.       

No comments:

Post a Comment

The Love Grenade

  Sinead threw a grenade down the esplanade. It was no ordinary, common and garden explosive device this, when it landed it shower...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman