Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Wednesday 19 January 2022

Mae gen i fab deg oed


Mae gen i fab deg oed




Mae gen i fab deg oed

Dwi'n ei gasáu fo

Mae o'n real poen tin

Mi fydd o'n clinc yn hynach

Rhy debyg i'w fam o faswn ni'n deud

Shotgun wedding oedd hwnna

Gretna Green

Yr unig amser i mi fod yn yr Alban tan fis diwethaf

Es i fyny i Glasgow gyda'r mab i fynd a fo i'r Scottish Football Museum yn Hampden Park.

Roeddwn eisiau dangos iddo fo'r bêl droed roedd Cymru yn chwarae gyda fo pan roeddwn i yn deg oed.

October 16th 1977, blwyddyn Jubilee y Frenhines.

Oedd y Welsh FA yn ei doethineb wedi penderfynu chwarae'r gem World Cup Qualifier yn erbyn yr Alban yn Anfield o bob man. 

Roedd 'na drafferth wedi bod yng Nghaerdydd ac i osgoi mwy o hwnna mi wnaethant nhw droi i brifddinas Gogledd Cymru.

Wel dyn ni rownd for hyn yn cefnogi timau Lerpwl yn dan.

Everton neu Lerpwl a rhai yn mynd i Man Utd.

Dwi jest yn cefnogi Cymru.

Ella mi ai gyda'r poen tin i weld gem ar yr Oval ond mae Lerpwl yn Lloegr yn di! 

Ges i'r mab yn hwyr!

O ni yn 41

Priodi'n hwyr de.

Ac efallai dyna pam dwi'n gweld o yn boen ti'n oherwydd does ddim gyda fi'r egni i redeg ar ei ôl o.

Tadau eraill yn edrych fel bod nhw wedi dod lawr o ras yr Wyddfa a fi yn magu bola cwrw.

Dwi'n siŵr ei fod o dipyn bach yn ashamed ohona i yn gweld i'n rholio fyny i gatiau'r ysgol fel casgen.

Ond na fo gwneud ein gorau drostyn nhw da ni'n de?

Neb yn berffaith.

Roedd o'n reit impressed gyda'r amgueddfa.

Dywedodd y dyn gwerthu tocynnau fod  Gordon Strachan weithiau yn yr adeilad.

Mae'r mab yn dalach na fo

"The Hand of Joe"

Os oeddech chi ar dir y byw ag unrhyw ddiddordeb yn the Beuatiful Game mi roeddech chi yn cofio Joe Jordan yn mynd fyny am y bel yn erbyn Dave Evans oddiwrth throw in gan Asa Hartford. 

Os sbïwch chi ar You Tube mae 'na ryw Sgotyn bach o commentator yn deud definitely a penalty.

Dywedes i wrth un o warchodwyr yr Amgueddfa fod yr Alban wedi torri calonnau Cymru am genhedlaeth ar ôl hwnnw.

Wnaeth o jest sbïo arna i ar hogyn a deud 'Take a look at this'

Wnaeth o droi set deledu ymlaen ac ar hwnna oedd gol anhygoel 'Archie Gemmill' yn erbyn yr Iseldiroedd y flwyddyn wedyn yn Feinal Cwpan y Byd yn Argentina. 

Jincio yn erbyn dau ddyn , torri mewn a chic anhygoel i gefn y rhwyd.

Chwarae teg roedd o'n anhygoel o gol

"You see" wedodd o "if Big Joe had not handled the ball against you the Welsh, then the world would not have seen such a wonderful goal and don't forget Kenny Dalgliesh scored the second that night."

Ond doedd na neb yn dŷ ni yn meddwl am bethau fel hynny'r noson oer o hydref 1977. 

Roedd fy nhad dal yn fyw pryd hynny ac mi roedd o yn cofio John Charles yn chwarae yn erbyn Pele yn Sweden yn 1958 ac mi roedd o yn frwd iawn fy mod i yn cael yr un profiad ond ‘not to be’.

Oleua ma’ Ieuan bach poen ti'n ni wedi gweld Chrissie Coleman yn mynd i Ffrainc gyda Chymru yn yr European Feinals.

Wefreiddiol, ond rhywsut mi roeddwn i dal yn meddwl nôl i'r hand of Joe.

Gewch chi ddim y melys heb y chwerw.

Roedd Dad yn big Welsh Nash, yn erbyn yr arwisgo yn 69 felli roedd unrhyw golled i Gymru yn hoelen yn ei arch o.

Roedd o'n teimlo pethau i fer ei esgyrn.

Tîm gwych y noson honno hefyd, John Toshack ac mi wnaeth o hitio'r bar yn y munudau olaf.

Terry Yorath yn Gapten, na chi Viking o ddyn.

Mae gen i theory chi fod yr enw Cymraeg Iorwerth yn perthyn i Yorath.

A hefyd Yosser Hughes, "Gis a Job I can do dat," Yosser yn dod o Iorwerth

Diddorol o le di Lerpwl

Y Gymry a rhan fwyaf o rheina yn siarad Cymraeg yn adeiladu'r tai

Y Welsh Streets erbyn hyn wedi cael ei adnewyddu

Scowsar o dras Cymraeg di Mam Ieuan

Penbedw

Deg mlynedd yn ifancach na fi.

They said it wouldn't last ac mi roedden nhw yn iawn.

Wnaeth y briodas para saith mlynedd cyn i ddi sylweddoli fy mod i yn 'hopeless case'

Efallai dyna pam fod Ieu bach mor anystywallt.

Dwi'n i weld o bob yn ail benwythnos erbyn hyn ag mi wnâi nol o'r ysgol pan fod Kylie ddim yn gallu.

Aye Kylie! Oedd Jason Donovan a Kylie Minogue all the rage pan gafodd hi ei geni.

Roedd o'n job i gael hi i gytuno i enw Cymraeg i'r fechan.

Roedd hi eisiau alw fo'n George ar ôl George Michael.

Mae'r 1980s lot i ateb drostynt

Ond hogyn y 1970s roeddwn ni.

Choppers a Space Hoppers

Ond ddim cweit yr action man roeddwn yn gobeithio erbyn hyn

Ddim lot o waith o gwmpas dre

Bookies, Pub, Pub, Bookies, adref fydd hi gan amlaf.

Hogiar Crown wedi dechrau cymryd bets pan fyddai'n cael harten.

Dwi'm yn siŵr os oedd o'n deg i ddod a Ieu mewn i'r byd really.

Dwi ddim yn Saint ond mae mam o yn gallu bod yn dipyn o lond llaw.

Beth ddwi'n ofni mwy na dim ydy fydd o yn mynd off a brifo rhywun diniwed pan fydd o'n hyn

'Y Faraway look yn ei lygad o'

Oherwydd rydym ni wedi bod yn rhieni mor sâl.

Does 'na ddim llawlyfr nacoes 

Ond pwy a ŵyr efallai mi aeth o yn beldroediwr.

Ac mi welai fo yn sgorio gôl i Gymru jest cyn i mi gael Heart Attack.

Annhebyg, gweithio mewn Builders Merchants fydd ei dynged o

Fydd o’n gallu adeiladu mawsolëwm  i’w Dad o fel roedd y masiwn yn oes Victoria.

Ar ôl yr Amgueddfa, aethon ni ar un o’r Open Top Bus rides yna o gwmpas Glasgow

Werth chweil hefyd. 

Ar ol Celtic Park mynd off yn y Peoples’ Palace.

Well oedd Ieu wrth ei fodd yn yfed ei pop yn y Botanic Gardens.

Dyna beth wnes i sylwi am Glasgow, fod 'na civic pride yn y lle.

Dim Civic pride yng Nghymru, does na ddim ffwc all yng Nghymru really i fod yn honest.

Yn enwedig i dyn dros ei breim.   

Ond o leua dwi wedi cenhedlu yn do.

I’ve done my civic duty

Faswn ni ddim yn hoffi fod yn ddyn canol oed heb blant oherwydd fuasa pobol fel Kylie yn dechrau pwyntio bys a galw chi yn bedophile.

Does na ddim byd gwaeth na cael eich alw’n bedophile.

Real taboo ond oedd o’n rife yn yr hen ddyddiau yn doedd?

Dwi’m yn siwr chwaith pan ddaeth yr enw mewn i fodolaeth.

Kiddy Fiddlers oedd o pan o ni yn ifanc.

Does dim rhaid i mi warnio Ieu am bobol amheus oherwydd fod Kylie a’i gang o menywod sydd yn edrych yr union rhyn fath a hi ar ol o o fore tan nos.

Dwi jest yn gobeithio fydd o ddim yn tyfu fynni i briodi un o’r menywod maleisis yna gyda chwerder yn ei calonnau.

Roedd o dipyn o straen edrych ar ol Dad tua’r diwedd

Dod a fo off and on y ty bach. Dyn a gymaint o bresenoldeb a hunan barch wedi anghofio sut i sychu ei ben ol.

Does mo syndod fod na gymaint o bobol chwerw yn y byd nac oes.

Tasa chi’n eistedd o flaen y teledu acw am bedwar awr ar hugain yn enwedig y newyddion fuasech yn barod am y Seilam.

Dyna pam dwi allan o’r ty ac am stag rownd dre! Tafarn a Bwcies.

Dwi ddim yn siwr pam fy mod i ddim yn chwerw

Mynd yn fwy happy go lucky dwi

Vilage Idiot fuasa rhai’n deud.

Hoffi deud stori neu ddwy ar ol llond croen o ale.

Dych chi’n lwcus ma heno chi

Dwi’n sobor fel y Saint

Fel arfer fuasa’n rhaid i mi cael un neu ddau i sortio’r nerfau allan.

Well dych chi wedi cael y back story neu y stori dwi di dewis deud wrthoch chi ond tuasa Ieuan neu Kylie neu fy nhad yn eistedd ble rydw i rwan beth buasa gyda nhw i ddeud tybed?

“Mae fy nhad yn poen tin”

“Mae fy cyn wr yn poen tin”

“Mae fy mab yn poen ti’n ond o leua mae o yn sychu fy nhyn”

Beth dwi’n ceisio ddeud yn fy rowndabout Ronnie Corbett fordd o siarad ydy   

Rydym ni gyd yn poen ti’n i rhywun. Fel wedis  gynne, does neb yn berffaith

Roedd Joe Jordan yn poen ti’n i Gymru yn 77 ond wnaeth o ddim cyfadde’r ffaith i’r dydd hwn.

Meddyliwch am funud.

I bwy rydych chi yn poen ti’n iddynt?

Fuasa nhw yn deud wrhoch chi i i eich wyneb?         






No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman