Dwi'n anwybyddu fy Nghymraeg.
Mae'n flin da fi.
Trysor Cenedlaethol yn cael ei thrin fel baw ci
gan anwybodusion y twitterati.
Dwi'n siŵr fod o'n hiaith anodd i ddysgu
Mae'n iaith hawdd i anwybyddu
yn gorwedd fel craig yr oesoedd.
Ni sydd gyda rhywfaint,
ddim yn sylweddoli gymaint o fraint
ydy o i gael ei siarad.
ddim yn sylweddoli gymaint o fraint
ydy o i gael ei siarad.
"Well Cymraeg sâl na Saesneg slick"
maen't yn eu deud
ond fasa hwnna ddim yn ticio blwch
yr Eisteddfod
"Ti'n thick ta be yn ceisio mynegi dy hun gyda geiriau bratiog?
Ti'n un o rain sy'n hollol garpiog"
Mae'n anodd gwybod beth i wneud gyda beth sydd da fi
stwc yn y canol fel reffari.
Cario' mlaen fel Cymro Is-Graddol
neu geisio gwella yn waddol?
Ddim yn siŵr beth fasa wobr
i un fel fi sydd yn ceisio cadw'n sobor.
Oes yna apêl i'r Capel bellach?
Wastad yn teimlo fod hwnna yn lle i gael dy feirniadu dim am dy Gymraeg ond am dy wendid cynhenid fel dyn.
Iaith mynegiant ond dim ond i'r rhai sydd yn ei ddeall.
Dwi'n ddall i'r posibiliadau mae'n amlwg.
Cadw mynd fel Bardd Talcen Slip,
Bardd Cocos y Clown
tan 2050 pan fydd popeth yn troi'n frown.
Does 'na ddim gwaith ar blaned farw
Does 'na ddim iaith chwaith.
"Daddy, beth di'r Saesneg am newid hinsawdd?"
No comments:
Post a Comment