Language was the absolute key to all of this

Total Pageviews

Friday, 27 April 2018

Putting the Bugger in Brynbuga







Dwi ddim yn gwybod os ydy o rywbeth i frolio amdano ond dwi 'Y Ffrinj Nuttar' wedi bod yn ymosod ar Carwyn Jones yn eiriol ymhell cyn sefyllfa Sargeant y llynedd. Mor bell nol a 2014 mi roeddwn ni yn ei alw fo 'The Grey Lady' oherwydd ei wep welw a'i ymarferiad o wisgo cotiau mawr du. Yn gorfforol roedd 'na fwy na dwtch o'r Donald Trump amdano. Hollol aneffeithiol fel Prif Weinidog a Gwleidydd faswn ni yn ei alw fo ac yn debyg i sawl arweinydd arall jest yn aros yna am y statws o gael ei alw yn arweinydd. Dos bosib rôl arweinydd/adweinyddes ydy arwain trwy esiampl a dim jest sefyll yna fel dummy siop teiliwr. Maent yn deud fod wythnos yn gyfnod hir yn wleidyddiaeth ond mae mis, neu flwyddyn neu dwy flynedd yn teimlo fel oes. Mi orffennais gerdded llwybr Clawdd Offa yn 2016 y diwrnod cyn y bleidlais Brexit ag ni all neb gwadu fod awyrgylch 'Brand Britain' wedi troi yn wenwynig ers y dydd hwnnw. Mae o fel bod isymwybod hiliol, yr 'island race' wedi dod i'r wyneb gyda rhyddhad o gael gwared â mewnfudwyr gydag un bleidlais. Ewrop oedd y bwgan mawr, yn debyg i ni yng Nghymru gyda Westminster a'r Teulu Brenhinol. Fel un sydd wedi byw yn Lloegr dydy neb yn gwario eiliad yn meddwl amdanon ni ochr arall i'r ffin fandyllog (porous border) ond nol yng Nghymru mae yn teimlo fel brwydr ddyddiol i ddatgan barn am hunaniaeth. Ein Quisling bach 'Alun Cairns' sydd wedi deffro un bore a phenderfynu fod enw newydd i fod ar yr ail Bont Hafren. Tatws Bach i gymharu â beth sydd yn digwydd yn Syria ond rydym ni fel dinasyddion Cymru yn meddwl gallwn ni gwneud rhywbeth am yr ail enwi gan wybod ni allwn newyd y sefyllfa yn Syria. Yn lle treulio amser gofidio am bwy sydd yn mynd i fod yn arweinydd nesaf y Blaid Lafur Cymraeg efallai ddylwn ni dechrau lobio i symud y Cynulliad mor bell i ffwrdd o Gaerdydd ag y Bont newydd ac sydd yn bosib. Aberystwyth yn lle Mark Drakeford, Caernarfon yn lle Eluned Morgan. Mae ein hen Prif Ddinas (ers 1955) wedi troi yn rhyw fath o le dwmpio'r genedl. Ddylswn ni wybod, dwi wedi bod yn pydru yna ers tri degawd bellach. Mae brwydr scwar ganolog wedi ei golli. Mae'r hen 'Temperance Town' wedi troi yn lle intemperate iawn erbyn hyn gyda chefnogwyr Rygbi yn troi yn flin yn ei chwrw. Ydy hwn mwy i wneud gyda chiwio i'r orsaf trenau tybed? Ac roedd Rod Liddle yn iawn tybed yn awgrymu ein bod yn wlad trydydd byd? Os dydych chi ddim wedi symud allan o eich milltir scwar erioed mi fyddwch yn berwi gydag anniddigrwydd dros y cwestiwn yna ond yn anffodus dwi wir yn teimlo fod yr ymateb i hun a sgrifennodd yn y Times wedi dangos ni i fyny fel cenedl croen tenau ofnadwy. Rhyfedd o fyd taw yr Aelod Seneddol Plaid Cymru a gafodd ei eni yn Lloegr sydd wedi ymateb mor chwyrn i eiriau ffwrdd a hi gan y dyn oedd arfer gweithio ar y South Wales Echo.  Rydym mor gyflym i ymosod ar ddinasyddion gwledydd eraill sydd yn datgan barn yn ein herbyn ond mae o fel ein bod yn cerdded ar blisg wyau tasa un o ein Cymry honedig yn deud rhywbeth. Mi orffennai yn son am David Davies, Aelod Seneddol Sir Fynwy, y dyn sydd wedi rhoi'r 'Bugger' yn 'Brynbuga'. Drueni fod Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd ddim yn cynrychioli'r hen Sir Gwent. Ar yr un diwrnod maent yn dadorchuddio cofeb yn Abergavenny i gofio am Eisteddfod Genedlaethol lwyddiannus diweddar mae'r Tori sydd wedi mynd i'r fath trafferth o ddysgu Cymraeg yn datgan 'English First' ar arwyddion ffordd. Rhyfedd o fyd indeed!  

2 comments:

  1. Blog arall da iawn gan Sharkfishinginwales.blogspot.co.uk.

    ReplyDelete
  2. Diolch am ddarllen Mrs Jenkins! Chi yw y 'darllenydd' mwya cyson sydd da fi!

    ReplyDelete

British Bulldog

  My first blog post of 2025! What took you so long? Well probably like many in Britain and America I have been like a punch drunk boxer. Th...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman