Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Tuesday 21 March 2017

Yn nwylo Brydeinwyr









Cwestiwn i ddechrau. A fydd yr Iaith Gymraeg yn ddiogel yn nwylo Brydeinwyr? Bob deng mlynedd mae'r cyfrifiad yn datgelu fod yr iaith yn colli tir. Rydym yn edrych tuag at y Blaid Lafur a 'Our Man yn Nhredegar'  'i sicrhau bydd na miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Nod digon teg a canmoladwy gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ond i drosglwyddo canran fawr  o'r cyfrifoldeb yma i blaid sydd erioed wedi bod yn rhi’ brwdfrydig dros ei thranc yn ateb fy nghwestiwn gwreiddiol. Yn fy hanner cant o flynyddoedd mae wedi dod yn ddigon clir i mi na Llywodraeth Brydain yn rhoi ei hunan gyntaf a briwsion o'r bwrdd mae Cymru wedi cael erioed. Arberth gan Gwynfor Evans a Chymdeithas yr Iaith sicrhaodd Sianel Deledu yn yr Iaith Gymraeg ond ers 1982 mae nifer o siaradwyr wedi mynd ar ei lawr er gwaethaf y datblygiad yma. Tybed beth fasa wedi digwydd tasa na Llywodraeth Llafur mewn grym yn yr un cyfnod. Os ydy Plaid Wleidyddol ddim yn brwydro dros annibyniaeth i'w gwlad sut maent yn disgwyl i'r iaith frodorol fynnu gyda hi yn bodoli drws nesaf i'r iaith fwyaf pwerus yn y byd? Oni bai fod mwy o ddatganoli yn digwydd ble mae Cymru yn gyfrifol am fwy o bethau ac yn cael yr hawl i ddeddfu dros yr iaith ac yn rhoi'r iaith gyntaf bob tro fydd na ddim ffyniant. Gan ddatgelu'r nod yma, fydd perygl i bobol eistedd nol a meddwl bydd popeth yn iawn. Mi barhâi i fynych y capel ar eisteddfod a'r dafarn Gymraeg. Mi barhâi i Bleidleisio i Blaid Cymru. Beth arall rydych yn disgwyl oddi wrtha’i? Well gyda'r Alban yn chwifio'r saltire yn uchel ar hyn o bryd a dwylo'r Prydeinwyr yn arwain ni'r Gymru allan o Ewrop beth sydd gyda ni ar ôl ond datgan ein gwrthwynebiad yn uchel ac yn groch i Brydeindod. Mi fyddan ni yn cael ein llyncu yn gyfan gwbl gan Jac yr Undeb os fyddwn ddim yn ofalus. Yn rhannau o Gymru mae hon wedi digwydd yn barod. Oni bai ein bod ni yn rhoi tranc yr iaith ac annibyniaeth ein gwlad yn gyfystyr ai gilydd mi fyddwn ni gyd yn llenwi'r ceubwll gyda'r baw ci, sef pwnc hoffus Cynghorwyr lleol.  

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman