Perchnogaeth y Pumdeg
0-10 = Iawn
10-20 = Crap
20-30 = Crap
30-40 = Crap
40-50 = Weddol
felli dwi'n mawr obeithio bydd y degawd nesaf unai yn iawn neu yn weddol. Dyle fe fod. Dwi ddim yn mynd i edrych am drafferth bellach ond weithiau mae trafferth yn eich ffeindio chi yndydi? Dwi dal i botsian gyda'r sgrifennu yma, mwy allan o ddiddordeb na unrhyw ymgais bellach i wneud pres neu enw wrtho. Gan feddwl, dwi yn teimlo fel hen ddyn, yn wir dwi'n meddwl ces i fy ngeni yn hen ddyn neu gyda hen enaid beth bynnag. Arolwg difrifol ar y byd sydd wedi bod a dim ond yn ddiweddar dwi wedi ymlacio rhywfaint gan sylweddoli does dim lot o bwynt gofidio am ddim. Os ydych dal yn anadlu dyna'r gorau allech obeithio tybiwn ni. Yn ifancach roedd troi yn bumdeg yn arwydd eich bod yn hen a faswn byth wedi sgwrsio gyda'r fath bobol sydd bellach yn ei saithdegau os ydynt dal yn fyw. Y wers fwyaf dwi wedi dysgu ydy byw gyda’n syniad o farwolaeth a gyda'r ffaith fydd y j么c yma o fywyd drosodd rhyw ddydd. Beth a pwy sydd yn rhoi'r disgwyliadau yma i ni? Disgwyliadau fydd byth yn gallu cael ei gwireddu.
Yn ddiweddar mae hen lanciau dwi'n adnabod wedi bod yn son am berthynas a phriodi, edrych yn 么l a difaru, neu edrych ymlaen gyda phryder ag ofn gan amlaf. Well i mi beidio lleisio barn yn famau ond mae 'na golled neu ryw dwll ym mhob dyn a dynes sydd ddim wedi ffeindio ei gymar, twll sydd gan amlaf yn cael ei llenwi gyda phrysurdeb, diod, Duw neu gathod. O ble ddaeth y syniad ff么l yma o'r un? Erbyn hyn dyle fe ddim bod yn unrhyw un? I gadw'r iaith yn fyw, chi'mbod, neu yn yr oes sydd ohoni dyle bobol sengl ddim cael mwy o barch am ei safiad a'i safbwynt. Maent wedi gwrthod y 'norm' unai trwy ffawd neu anffawd, dydynt ddim am ddod a phlant mewn i'r byd yma, hunanol neu anhunanol? Pwy a 诺yr?
No comments:
Post a Comment